Ffordd Aberhonddu, Llanfair-ym-Muallt - Sut i gymryd rhan
Gellir lawrlwytho copi o'r Gorchymyn drafft, y cynllun perthnasol a datganiad o resymau'r Cyngor dros gynnig gwneud y Gorchymyn o'r wefan hon.
Caiff UNRHYW BERSON wrthwynebu gwneud y Gorchymyn erbyn 14 Tachwedd 2025 fan bellaf drwy hysbysu'r is-lofnodedig yn ysgrifenedig, gan nodi sail y gwrthwynebiad.
Noder: Os hoffech wrthwynebu, cefnogi neu wneud sylwadau, bydd eich gohebiaeth yn cael ei hystyried gan y tîm prosiect ac efallai y bydd angen i ni ymgynghori â phobl a sefydliadau y tu allan i'r Cyngor Sir. Fel rhan o'r broses o ymgynghori ag eraill, efallai y byddwn yn trosglwyddo gwybodaeth iddynt, gan gynnwys gwybodaeth rydych chi wedi'i rhoi i ni a'ch data personol. Fodd bynnag, dim ond pan fo angen gwneud hynny er mwyn i ni allu delio â materion rydych chi wedi'u dwyn i'n sylw y byddwn yn datgelu eich manylion personol.
Rheolwr Systemau Traffig a Diogelwch
Adran Traffig
Neuadd y Sir
Llandrindod
Powys
LD1 5LG