Recriwtio mwy o staff gofal cymdeithasol i leihau oedi mewn ysbytai
20 Hydref 2025
Maent yn cynnwys gweithwyr cymdeithasol, therapyddion galwedigaethol ac aseswyr galluogi sydd wedi'u hychwanegu at Dimau Ysbytai a Drws Ffrynt y cyngor sir, ar ôl iddo dderbyn Grant Trawsnewid Llwybrau Gofal gwerth £1.3 miliwn gan Lywodraeth Cymru.
Bydd y gweithwyr cymdeithasol ychwanegol yn caniatáu i'r Tîm Ysbyty wasanaethu ysbytai cymunedol yn ogystal ag ysbytai cyffredinol dosbarth (ysbytai mawr), a bydd y therapyddion galwedigaethol a'r aseswyr galluogi ychwanegol yn caniatáu i'r Tîm Drws Ffrynt ddarparu cymorth annibyniaeth i fwy o bobl, gan gynnwys therapïau lle bo angen.
Bydd y cyngor hefyd yn caniatáu i weithwyr proffesiynol, ar wahân i'w weithwyr cymdeithasol ei hun, wneud asesiadau gofal ledled y sir, ar ôl treialu'r dull mewn dau gartref preswyl. Er mwyn galluogi hyn yn digwydd, bydd yn penodi swyddog prosiect penodedig a fydd yn gweithio mewn partneriaeth â chydweithwyr ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys.
Bydd ffioedd hefyd yn cael eu talu ymlaen llaw i rai gweithwyr gofal cartref a gyflogir yn breifat, fel blaendal, i helpu i sicrhau eu gwasanaeth mewn rhannau gwledig o'r sir, lle mae'r ddarpariaeth wedi bod yn anghyson o'r blaen. Ac ar yr un pryd, bydd y cyngor yn adolygu ei gontractau gydag asiantaethau gofal preifat, i weld os all addasiadau i delerau a amodau, a mesurau perfformiad, sicrhau gwelliannau pellach.
Bydd y cyngor hefyd yn buddsoddi mwy o arian mewn mesurau atal, drwy ei wasanaeth Cymorth Cartref, gyda'r nod o leihau derbyniadau i ysbytai yn y lle cyntaf, ac ymestyn defnydd ap deallusrwydd artiffisial (AI) ar gyfer trawsgrifio asesiadau i bob tîm, yn cynnwys ar gyfer partneriaid sy'n gweithio fel aseswyr.
Meddai'r Cynghorydd Pete Roberts, Aelod Cabinet Cyngor Sir Powys dros Bowys Ofalgar: "Rydym yn defnyddio'r cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru i wneud popeth o fewn ein gallu i leihau'r oedi sy'n cael ei brofi gan bobl sy'n aros i gael gweithiwr cymdeithasol, am asesiad gofal, neu i ddechrau derbyn gofal cymunedol neu ailalluogi.
"Os ydyn ni'n llwyddiannus wrth gyflawni'r gwelliannau sylweddol rwy'n rhagweld, rwy'n gobeithio y bydd yr arian ychwanegol hwn ar gyfer gofal cymdeithasol yn y gymuned yn dod yn ychwanegiad parhaol i setliad blynyddol llywodraeth leol fel y gallwn barhau i arloesi a thrawsnewid ein gwasanaethau gan arbed arian i'r cyngor a'r GIG yn y tymor hir."
Dyrannwyd £30 miliwn o Grant Trawsnewid Llwybrau Gofal i gynghorau sir ledled Cymru i'w wario ar ofal cymdeithasol yn y gymuned yn ystod y flwyddyn ariannol bresennol.
Gofynnodd Llywodraeth Cymru i Bowys wario ei chyfran ar leihau nifer y bobl sy'n aros am:
- Ddyraniad gweithwyr cymdeithasol
- Cwblhau asesiad gan ofal cymdeithasol
- Dechrau pecyn gofal cymunedol newydd a ariennir gan ofal cymdeithasol
- Pecyn gofal cymunedol ailalluogi
Rhagor o wybodaeth am weithio yn y maes gofal cymdeithasol ym Mhowys:
- Gweithio i Gyngor Sir Powys: Gweithio ym maes Gofal Cymdeithasol Oedolion
- Gweithio i asiantaeth gofal: https://cy.powys.gov.uk/gweithiwrgofalcartref
Rhagor o wybodaeth am gael mynediad at gymorth a chyngor:
- Cysylltu â thîm Drws Ffrynt y cyngor: CYMORTH
- Cymorth gartref ledled Powys, gan gynnwys Cymorth Cartref: Cymorth ac Atal Cynnar yn y Cartref
LLUN: Aelodau o Dîm Ysbyty Cyngor Sir Powys a ehangwyd i leihau oedi mewn ysbytai.
