Dros 9,000 o Gronfeydd Ymddiriedolaeth Plant heb eu hawlio ym Mhowys - annog pobl ifanc i wirio

20 Hydref 2025

Mae dros 9,000 o Gronfeydd Ymddiriedolaeth Plant heb eu hawlio ym Mhowys, sy'n golygu y gall miloedd o bobl ifanc a anwyd rhwng 1 Medi 2002 a 2 Ionawr 2011 gael arian wedi'i arbed mewn cyfrif y gallant ei ddefnyddio bellach.
Sefydlwyd Cronfeydd Ymddiriedolaeth Plant gan Lywodraeth y DU ar gyfer plant a anwyd yn ystod y cyfnod hwn, ac efallai na fydd llawer o bobl ifanc yn sylweddoli bod arian wedi'i arbed mewn cyfrif y gallant ei gael bellach.
Yn 16 oed, gall pobl ifanc gymryd rheolaeth dros eu cyfrif, dewis sut i'w fuddsoddi, neu ychwanegu ato ac yn 18 oed, gallant dynnu'r arian yn ôl - i wario neu gynilo fel y dymunant.
Bellach mae'r cyngor yn annog pobl ifanc yn y sir a anwyd yn ystod y cyfnod hwn i hawlio eu Cronfa Ymddiriedolaeth Plant.
Mae'r Share Foundation yn cefnogi pobl ifanc yn benodol i ddod o hyd i'w cronfa ymddiriedolaeth a'i hawlio. Mae eu hoffer ar-lein am ddim yn eich galluogi i wirio a oes gennych gyfrif. I gael gwybod a oes gennych Gronfa Ymddiriedolaeth Plant, ewch i https://findctf.sharefound.org/
Bydd angen eich Rhif Yswiriant Gwladol arnoch, ond os nad ydych yn gwybod beth yw hwnnw, gall Meic Cymru helpu.
Dywedodd y Cynghorydd Matthew Dorrance, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet ar gyfer Powys Decach: "Efallai nad oes llawer o bobl ifanc yn sylweddoli bod ganddynt arian yn aros amdanynt mewn Cronfa Ymddiriedolaeth Plant. Ar adeg pan fo cyllid yn dynn, gallai wneud gwahaniaeth gwirioneddol.
"Mae'r arian hwn yn perthyn i chi. Os bydd unrhyw un yn ceisio rheoli sut y byddwch yn ei defnyddio neu'n mynd ag e oddi wrthych chi, cysylltwch â Meic neu siaradwch â rhywun yr ydych yn ymddiried ynddo.
"P'un a ydych yn cynllunio ar gyfer addysg, tai neu gynilo ar gyfer y dyfodol, rwy'n annog pob person ifanc cymwys i wirio ei gyfrif a hawlio'r hyn y gall hawlio sy'n eiddo iddo."
I gael rhagor o wybodaeth am Gronfeydd Ymddiriedolaeth Plant, ewch i https://www.meiccymru.org/do-you-have-money-hiding-in-a-child-trust-fund/ neges destun 84001 neu ffoniwch 080880 23456