Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Rhybudd: System dalu yn segur am gyfnod

Gwisgwch eich Pabi gyda Balchder - Cyngor yn cefnogi apêl flynyddol

Image of a person wearing a poppy

22 Hydref 2025

Image of a person wearing a poppy
Mae Cyngor Sir Powys yn annog trigolion i gefnogi Apêl Pabi blynyddol y Lleng Brydeinig Frenhinol ac i wisgo eu pabïau gyda balchder.

Bydd Apêl y Pabi yn rhedeg tan Dydd y Cofio ar 11 Tachwedd a bydd yr arian a godir yn helpu'r Lleng Brydeinig Frenhinol i ddarparu cymorth hanfodol i bersonél sy'n gwasanaethu a'r rhai sydd wedi gwasanaethu a'u teuluoedd, gan gynnig arweiniad a chymorth arbenigol gydag adferiad a phontio i fywyd sifil drwy gydol y flwyddyn.

"Fel Hyrwyddwr Lluoedd Arfog Cyngor Sir Powys, rwy'n falch o gefnogi Apêl y Pabi eleni," meddai'r Dirprwy Arweinydd, y Cynghorydd Matthew Dorrance.

"Dan arweiniad y Lleng Brydeinig Frenhinol, mae'r apêl yn chwarae rhan hanfodol yn ein helpu i gofio ac anrhydeddu'r rhai sydd wedi gwasanaethu ac aberthu dros ein gwlad.

"Mae'r arian a godir yn darparu cymorth lles sy'n newid bywydau i'n cymuned Lluoedd Arfog, cyn-filwyr a'u teuluoedd.

"Mae gwisgo pabi yn weithred syml ond pwerus o gofio a diolchgarwch. Rwy'n annog pawb i gefnogi Apêl y Pabi ac i wisgo eu pabi gyda balchder."

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu