350 o gartrefi newydd wedi'u hadeiladu ym Mhowys y llynedd

22 Hydref 2025

O'r rhain, dosbarthwyd 203 fel 'tai fforddiadwy': eiddo a gynigir i'w rhentu am brisiau is na'r farchnad neu'n agos at y farchnad.
Fe wnaeth cynllun byw annibynnol Neuadd Maldwyn i bobl hŷn, yn y Trallwng, gyflawni 66 o'r 350 o gartrefi newydd a gwblhawyd y llynedd. Adeiladwyd y rhain gan Bartneriaethau Anwyl ar ran ClwydAlyn ac mewn partneriaeth â Chyngor Sir Powys, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys a Llywodraeth Cymru.
Dim ond 54 o'r 350 a adeiladwyd ar safleoedd a neilltuwyd ar gyfer tai yn y CDLl ar gyfer ardal Awdurdod Cynllunio Lleol Powys (pob rhan o'r sir y tu allan i Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog). Adeiladwyd y gweddill ar 'safleoedd annisgwyl': ardaloedd nad ydynt wedi'u marcio at y diben hwn, ond a ryddhawyd i ddiwallu'r galw am fwy o gartrefi.
Dros gyfnod 15 mlynedd y CDLl 2011-2026, mae 4,500 o gartrefi newydd i'w hadeiladu, gyda 3,423 wedi'u cyflenwi erbyn diwedd mis Mawrth eleni. Dosbarthwyd cyfanswm o 946 o'r rhain fel rhai 'fforddiadwy'.
"Mae'n wych gweld bod cyfradd adeiladu tai wedi cynyddu'n sylweddol y llynedd, o gyfartaledd, dros 13 mlynedd, o 236 y flwyddyn," meddai'r Cynghorydd Jake Berriman, Arweinydd Cyngor Sir Powys ac Aelod Cabinet dros Bobl, Perfformiad a Phartneriaethau. "Rydym am weld y gyfradd well hon yn parhau a gweld llawer mwy o gartrefi yn cael eu darparu yn ystod tymor y CDLl presennol a thu hwnt iddo.
"Mae'r cartrefi ychwanegol hyn, ac yn enwedig y rhai fforddiadwy, yn helpu i leihau digartrefedd ym Mhowys."
Mwy o wybodaeth am ddatblygiad Neuadd Maldwyn: https://www.clwydalyn.co.uk/cy/neuadd-maldwyn/
LLUN: Datblygiad Neuadd Maldwyn yn hen swyddfeydd Cyngor Sir Powys yn Y Trallwng.