Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Rhybudd: System dalu yn segur am gyfnod

Arweinydd y cyngor yn diolch i fusnesau Powys am adeiladu economi ddeinamig

Councillor Jake Berriman, leader of Powys County Council, addressing the Powys Business Awards audience.

23 Hydref 2025

Councillor Jake Berriman, leader of Powys County Council, addressing the Powys Business Awards audience.
Mae arweinydd Cyngor Sir Powys wedi diolch i fusnesau'r sir am eu hymrwymiad i adeiladu economi fodern a ddeinamig sy'n gweithio i bawb.

Roedd y Cynghorydd Jake Berriman, sydd hefyd yn aelod o gabinet y cyngor ar gyfer pobl, perfformiad a phartneriaethau, yn siarad yng nghinio blynyddol Gwobrau Busnes Powys a gynhaliwyd yn yr Hafren, Y Drenewydd nos Wener ddiwethaf.

Mae Cyngor Sir Powys yn noddwr y gwobrau, a drefnir gan Grŵp Gweithgynhyrchu Canolbarth Cymru (MWMG).

"Rydym yn edrych yn eiddgar i'r dyfodol ac rwy'n falch bod Cyngor Sir Powys unwaith eto'n noddi'r digwyddiad gwych hwn. Nid tlysau a theitlau yn unig sy'n bwysig, mae'n ymwneud â phobl a phosibilrwydd a chreadigrwydd, y dewrder a'r penderfyniad sy'n diffinio'r gymuned fusnes yma ym Mhowys.

"Ein busnesau lleol, o fentrau teuluol i arloeswyr sy'n tyfu'n gyflym, yw anadl einioes ein heconomi. Rydych chi'n ysgogi twf, yn creu cyfleoedd ac yn helpu ein cymunedau i ffynnu. Gyda'ch gilydd, rydych yn llunio Powys gryfach, decach a mwy cynaliadwy.

"Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi gweld enghreifftiau anhygoel o uchelgais a chydnerthedd - mentrau newydd a anwyd o syniadau beiddgar, cwmnïau sefydledig sy'n croesawu arloesedd ac unigolion niferus yn troi heriau'n gyfleoedd.

"Rydym hefyd wedi gweld cynnydd gwirioneddol drwy fentrau sydd wedi'u cynllunio i ddatgloi twf a buddsoddiad ar draws y rhanbarth."

Gwahoddwyd saith busnes llwyddiannus o'r sir i fwrw ymlaen â cheisiadau ar gyfer Cronfa Eiddo Masnachol y Canolbarth, a ddisgrifiodd fel "arwydd cryf o hyder ac o'r cyfeiriad cyffrous y mae ein heconomi leol yn mynd iddo".

Soniodd y Cynghorydd Berriman hefyd am lansiad cadarnhaol Grant Twf Cyfalaf sy'n helpu busnesau Powys i fuddsoddi, ehangu ac arloesi. "Mae'r grant hwn yn ymwneud â rhoi'r dulliau a'r cymorth sydd eu hangen ar entrepreneuriaid i droi syniadau'n gamau gweithredu a thwf yn swyddi," ychwanegodd.

"Rydym yn edrych i'r dyfodol gyda chynlluniau ar gyfer datblygu parciau busnes newydd a chanolfan weithgynhyrchu uwch, cam mawr ymlaen o ran creu'r seilwaith cywir ar gyfer menter, arloesi a chyflogaeth gwerth uchel yn y Canolbarth.

"Mae'r prosiectau hyn yn dangos ein hymrwymiad i adeiladu economi fodern, ddeinamig sy'n gweithio i bawb.

"Nid yw hanner y swyddi y gallai pobl ifanc fod yn eu gwneud yn y 10 mlynedd nesaf wedi cael eu dyfeisio eto. Mae'r bobl sydd yn yr ystafell hon heno yn allweddol i greu cyfleoedd ar gyfer y genhedlaeth nesaf."

Diolchodd i enillwyr y gwobrau, y rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol ac enwebeion am eu brwdfrydedd i wthio ffiniau, eu hymrwymiad cymunedol a'u gweledigaeth i wneud Powys yn fan lle mae menter yn ffynnu.

"Fel cyngor, rydym yn falch o weithio ochr yn ochr â chi, gan gefnogi arloesedd, cynaliadwyedd a chynhwysiant ar draws ein trefi a'n cymunedau gwledig," ychwanegodd y Cynghorydd Berriman. "Mae'r gwerthoedd hyn wrth wraidd ein gweledigaeth gyffredin ar gyfer dyfodol Powys.

"Mae eich llwyddiant yn goleuo'r ffordd i eraill, gan ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o entrepreneuriaid i gael breuddwydion mawr ac i wneud eu marc yma ym Mhowys. Diolch am bopeth ry'ch chi'n ei wneud i wneud ein sir yn lle o gyfleoedd a balchder."

Llun: Y Cynghorydd Jake Berriman, arweinydd Cyngor Sir Powys, yn annerch cynulleidfa Gwobrau Busnes Powys.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu