Wythnos Profi HIV
Rydym ni allan yn y gymuned!
Dewch i gasglu pecyn profi iechyd rhywiol am ddim.
Pecynnau "profi a phostio" yw'r rhain, rydych chi'n mynd â nhw adref, yn cwblhau'r prawf yn eich amser eich hun, ac yn ei bostio'n ôl gan ddefnyddio'r amlen wedi'i thalu ymlaen llaw.
Mae'n syml, yn ddisylw ac yn cael ei gefnogi.
Yn union fel mynd at y deintydd neu'r optegydd, mae gofalu am eich iechyd rhywiol yn rhan o aros yn iach.
Dyddiadau a Lleoliadau:
- Dydd Llun 17 Tachwedd - Coleg NPTC Y Drenewydd, Ffordd Llanidloes, Y Drenewydd, SY16 4HU
- Dydd Mawrth 18 Tachwedd - Tesco, Wind Rd, Ystradgynlais, SA9 1AD
- Dydd Mercher 19 Tachwedd -Llyfrgell Aberhonddu, Y Gaer, Heol Morgannwg, Aberhonddu, LD3 7DW
- Dydd Iau 20 Tachwedd - Tesco, Lôn y Felin, Y Trallwng, SY21 7BL
- Dydd Gwener 21 Tachwedd - Tesco, Ffordd Waterloo, Llandrindod, LD1 6BH
Dysgwch fwy am HIV ac iechyd rhywiol yma:
