Cyngor Sir Powys yn arwain menter drawsffiniol i hybu economi ymwelwyr
5 Tachwedd 2025
Dan arweiniad Cyngor Sir Powys ar gyfer y Bartneriaeth y Gororau Ymlaen, mae astudiaeth ddichonoldeb a gomisiynwyd yn arbennig, yn nodi map ffordd ar gyfer gwella apêl y rhanbarth i ymwelwyr dros y tair i bum mlynedd nesaf.
Mae'r astudiaeth, a grëwyd gan Rieth Consulting, yn nodi cyfres o brosiectau strategol sydd â'r nod o wella mynediad, hyrwyddo treftadaeth leol, ac arddangos harddwch naturiol a rhagoriaeth goginiol yr ardal.
Fe wnaeth ymchwil defnyddwyr a gynhaliwyd fel rhan o'r astudiaeth ddatgan, er bod y Gororau'n cael eu disgrifio'n eang fel "prydferth, heddychlon, ymlaciol, golygfaol, tawel, gwyrdd, hanesyddol, gwledig, diddorol a naturiol," nad oedd hanner yr ymatebwyr erioed wedi ymweld â'r ardal. Mae'r bwlch hwn yn tynnu sylw at yr angen am farchnata wedi'i dargedu a gwelliannau seilwaith.
Dywedodd y Cynghorydd Glyn Preston, Aelod Cabinet Cyngor Sir Powys dros Bowys Fwy Ffyniannus: "Mae gwella a marchnata'r Gororau yn gam hanfodol ymlaen wrth ddatgloi potensial twristiaeth y rhanbarth.
"Mae'r astudiaeth yn cynnig gweledigaeth glir ac uchelgeisiol ar gyfer sut y gallwn gydweithio ar draws ffiniau i greu economi ymwelwyr ffyniannus sy'n fuddiol i'n cymunedau, yn amddiffyn ein tirweddau, ac yn dathlu ein treftadaeth gyffredin. Rwy'n falch bod Powys yn arwain ar y gwaith hwn ac yn edrych ymlaen at weld y syniadau hyn yn dod yn fyw."
Dyma rai o'r cynigion allweddol:
- Marchnata'r Gororau: Ymgyrch gydlynol i godi proffil y rhanbarth drwy frandio trawsffiniol a hyrwyddo sy'n seiliedig ar ddata.
- Cerdded gydag Offa / Gorymdaith y Gororau: Adfer a gwarchod Clawdd Offa a'r llwybrau cyfagos, ynghyd â mynediad a phrofiadau ymwelwyr gwell.
- Mynediad i'r Gororau: Mentrau i gefnogi teithio di gar i gyrchfannau cefn gwlad, gan wneud twristiaeth yn fwy cynaliadwy.
- Gororau Pur: Ymgyrch sy'n canolbwyntio ar ffordd o fyw yn dathlu bwyd, diod a llwybrau cerdded hamddenol lleol.
- Stori'r Gororau: Rhaglen ddehongli ddigidol a chorfforol i ddod â hanes cyfoethog y rhanbarth yn fyw.
- Gŵyl y Gororau: Strategaeth frandio i uno ac ehangu digwyddiadau presennol o dan un ymbarél.
Bydd y cynigion yn destun gweithdy Partneriaeth y Gororau Ymlaen pwrpasol ym mis Tachwedd, lle bydd rhanddeiliaid yn trafod y camau nesaf ac yn dechrau llunio achosion busnes ar gyfer prosiectau blaenoriaeth.
Mae Partneriaeth y Gororau Ymlaen yn cynnwys cynghorau o Swydd Amwythig, Powys, Swydd Henffordd, a Sir Fynwy, yn cydweithio i ddatgloi buddsoddiad a chyflawni newid trawsnewidiol ar draws ffin Cymru a Lloegr.
