'Addasiad ystafell ymolchi a'm hachubodd rhag drysfa fel rhywbeth allan o Indiana Jones'
7 Tachwedd 2025
Mae Stephen Fleming, sy'n byw ger Llandrindod, wedi canmol gwaith therapyddion galwedigaethol a staff tai'r cyngor sir yn ystod Wythnos Therapi Galwedigaethol 2025 (3-9 Tachwedd).
Roedd yn un o 24 o bobl a gafodd gymorth gan therapyddion galwedigaethol yng nghanolbarth a de Powys i gael cawod mynediad gwastad wedi'i gosod y llynedd (2024-25), gyda llawer mwy i fod i gael yr un cymorth eleni.
Dywedodd Stephen: "Roedd y gawod mor fach, gyda sedd y gawod ynddi, roedd fy mhengliniau'n gwthio'r drws ar agor yn gyson, ac roedd y llawr wedi cwympo hefyd. Felly, roeddwn i fel Indiana Jones yn ceisio mynd trwy ddrysfa, i mewn i'r ystafell ymolchi."
Mae'n dweud y gall gyrraedd ei doiled yn ddiogel erbyn hyn ac mae'n gallu cael cawod bob dydd. "Mae'n llawer mwy syml," ychwanegodd.
Cyfeiriwyd Stephen at y cyngor gan Gofal a Thrwsio ym Mhowys, ond gellir gofyn am help gydag addasiadau hefyd drwy wasanaeth drws ffrynt y cyngor ar gyfer gofal a chymorth i oedolion, a elwir yn CYMORTH: CYMORTH
Gellir cael mynediad at y cymorth hwn hefyd drwy ffonio: 0345 602 7050.
Dywedodd y Cynghorydd Pete Roberts, Aelod Cabinet Cyngor Sir Powys ar gyfer Powys Gofalgar: "Mae'n bwysig i ni wrando ar yr hyn sy'n bwysig i'n trigolion, pan fyddant yn cysylltu â ni, neu bartneriaid fel Gofal a Thrwsio ym Mhowys, am gymorth. Ac mae hwn yn enghraifft wych o hynny'n digwydd yn ymarferol.
"Roedd gan Stephen nod o 'fod eisiau gallu cael cawod yn ddiogel ac yn annibynnol' ac roedd ein staff gofal cymdeithasol a thai yn gallu ei helpu i wireddu hynny.
"Mae hyn yn dangos y rôl allweddol rydyn ni'n ei chwarae wrth helpu ein trigolion i fyw bywydau iach ac egnïol, ac i fyw mor annibynnol â phosibl yn eu cartrefi eu hunain. Mae'r rôl honno wrth wraidd y newidiadau rydyn ni'n eu gwneud mewn gofal cymdeithasol i oedolion wrth i ni edrych ymlaen at gefnogi llawer mwy o bobl fel Stephen yn y dyfodol."
Rhagor o wybodaeth am weithio ym maes gofal cymdeithasol ym Mhowys:
- Gweithio i Gyngor Sir Powys: Gweithio ym maes Gofal Cymdeithasol Oedolion
- Gweithio i asiantaeth gofal: Gweithio fel Gweithiwr Gofal Cartref
Rhagor o wybodaeth am gael mynediad at gymorth a chyngor:
- Cymorth yn y cartref ledled Powys, gan gynnwys Cymorth yn y Cartref: Cymorth ac Atal Cynnar yn y Cartref
LLUN: Stephen Fleming yn ei ystafell ymolchi wedi'i gwella, sydd bellach yn cynnwys cawod mynediad gwastad, sedd cawod sy'n gostwng o'r wal, toiled wedi'i godi a rheiliau sy'n gostwng, wrth ymyl y toiled.
