Toglo gwelededd dewislen symudol

Cymysgu, paru a gwneud Gwahaniaeth - Diwrnod Sanau Od yn dod i Bowys

Image of a person wearing odd socks

7 Tachwedd 2025

Image of a person wearing odd socks
Gofynnir i blant ysgol ledled Powys i sigo sanau od fel rhan o ymgyrch genedlaethol i godi ymwybyddiaeth o fwlio.

Mae'r 'Diwrnod Odd Socks' yn nodi dechrau Wythnos Gwrth-fwlio (10-14 Tachwedd), y mae Cyngor Sir Powys yn ei gefnogi.

Thema eleni yw "Gallu er Gwell", gan annog plant a phobl ifanc i gydnabod y dylanwad cadarnhaol sydd ganddynt a'i defnyddio i helpu i atal bwlio.

Mae Diwrnod Sanau Od yn ffordd hwyliog a hawdd o ddathlu unigoliaeth a chychwyn wythnos o weithgareddau sy'n canolbwyntio ar garedigrwydd a chynhwysiant.  Nid oes unrhyw bwysau ar brynu gwisgoedd drud, dim ond gwisgo sanau od a dechrau'r sgwrs.

Dywedodd y Cynghorydd Sandra Davies, Aelod Cabinet ar gyfer Cenedlaethau'r Dyfodol: "Mae pob plentyn yn haeddu teimlo'n ddiogel, yn teimlo ei fod yn cael ei barchu a'i werthfawrogi. Mae Wythnos Gwrth-fwlio yn ein hatgoffa bod gan bob un ohonom ran i'w chwarae wrth greu diwylliant o garedigrwydd. Drwy ddefnyddio ein 'Gallu er Gwell', gallwn sicrhau nad oes unrhyw berson ifanc yn teimlo ar ben ei hun neu nad oes unrhyw un yn gwrando."

Dywedodd y Cynghorydd James Gibson-Watt, Aelod Cabinet ar gyfer Powys sy'n Dysgu: "Mae addysg yn ymwneud â mwy na chyflawniad academaidd, mae'n ymwneud â helpu pobl ifanc i dyfu'n unigolion hyderus, tosturiol. Mae Diwrnod Sanau Od yn ffordd hwyliog o ddechrau sgyrsiau pwysig am barch a chynhwysiant, ac rydym yn falch o gefnogi ysgolion i wneud yr wythnos hon yn un ystyrlon."

Er mwyn annog ysgolion i gymryd rhan yn Diwrnod Sanau Od ac Wythnos Gwrth-fwlio, mae Bwrdd Dechrau Da Iau Powys wedi creu adnoddau ar gyfer gwasanaethau a chofrestru. Mae'r rhain yn cynnwys cyflwyniad byr sy'n ymdrin â:

  • Mathau o fwlio
  • Pwysigrwydd caredigrwydd
  • Beth i'w wneud os ydych chi'n cale eich bwlio

Mae'r Bwrdd Dechrau Da Iau yn cynnwys pobl ifanc sy'n gweithio gyda'r prif Fwrdd Dechrau Da i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael llais wrth lunio gwasanaethau lleol.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu