Toglo gwelededd dewislen symudol

Pont Llandrinio yn ailagor o dan amodau a reolir dros dro wrth i gynlluniau atgyweirio fynd rhagddynt

Image of Llandrinio Bridge

Translation Required:

14 Tachwedd 2025

Image of Llandrinio Bridge
Mae Cyngor Sir Powys yn falch o gadarnhau y bydd Pont Llandrinio yn ailagor dros dro ar gyfer yr holl draffig a hynny dan amodau a reolir, heddiw ddydd Gwener 14 Tachwedd 2025.

Yn ein diweddariad blaenorol, cadarnhawyd gennym y bwriedir dechrau atgyweiriadau hanfodol i Bont Llandrinio ar 17 Tachwedd, a bod disgwyl ei hailagor yn llwyr ganol mis Rhagfyr. Yn anffodus, mae'r glaw trwm diweddar, mwy nag a ragwelwyd, a lefelau dŵr yn codi yn yr afonydd wedi oedi'r cynlluniau hyn, fel bod yr amodau yn anniogel ar hyn o bryd i adfer y gwaith cerrig gwreiddiol o wely'r afon.

Er mwyn cynnal cysylltedd lleol a lleihau ar darfu, rydym bellach wedi rhoi trefniadau dros dro ar waith i ailagor y bont i'r holl draffig dan amodau a reolir y prynhawn yma (dydd Gwener 14 Tachwedd).

Bydd y mesurau rheoli traffig dros dro ar y bont yn caniatáu i gerbydau groesi'n ddiogel. Fodd bynnag, gyda llai o led ar y ffordd, anogir modurwyr i yrru'n ofalus er mwyn osgoi difrod pellach i'r strwythur.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i gwblhau'r gwaith atgyweirio'n llwyr cyn gynted ag y bo'r  amodau yn caniatáu. Bydd hyn yn cynnwys adfer y gwaith cerrig gwreiddiol ac ailadeiladu'r wal barapet gan ddefnyddio technegau traddodiadol i ddiogelu cymeriad hanesyddol y bont. Bydd angen cau'r bont ymhellach er mwyn cyflawni'r gwaith hwn, a byddwn yn trefnu bod amserlen gwneud hynny yn achosi'r tarfu lleiaf.  Byddwn yn rhoi gwybod i breswylwyr, busnesau a defnyddwyr y ffordd beth yw'r dyddiadau maes o law.

Dywedodd y Cynghorydd Jackie Charlton, Aelod Cabinet ar gyfer Powys Wyrddach:

"Rydym yn gwybod pa mor bwysig yw Pont Llandrinio i gymunedau lleol, ac er bod y tywydd wedi oedi ein cynlluniau gwreiddiol, bydd ailagor y bont dan amodau a reolir yn helpu i gynnal cysylltedd nes y gellir cwblhau'r gwaith atgyweirio'n llwyr.

"Byddwch yn ofalus iawn wrth groesi, y peth olaf sydd ei angen arnom yw difrod pellach i ochr arall y bont tra bo'r mesurau rheoli traffig ar waith.

"Byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i bawb ynghylch cau'r bont ar gyfer ei hatgyweirio yn y dyfodol cyn gynted ag y bydd y dyddiadau'n cael eu cadarnhau. Diolch am eich amynedd a'ch cydweithrediad wrth i ni weithio i adfer y strwythur hanesyddol hwn yn ddiogel."

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu