Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Rhybudd: Bydd dyddiau casglu gwastraff ac ailgylchu yn newid dros y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd.

Dewch i Siarad: Byw ym Mhowys - Cyfle olaf i ddweud eich dweud

Speech bubble with Dewch i siarad Byw ym Mhowys on a background of a Powys landscape

17 Tachwedd 2025

Speech bubble with Dewch i siarad Byw ym Mhowys on a background of a Powys landscape
Mae preswylwyr ym Mhowys yn cael eu hannog i ddweud eu dweud am fywyd ym Mhowys i helpu i lunio cynlluniau a darparu gwasanaethau yn y dyfodol, meddai'r cyngor sir.

Mae'r arolwg o'r enw "Dewch i Siarad: Byw ym Mhowys" yn gyfle i breswylwyr rannu eu barn ar fywyd yn y sir a'u profiadau o ddefnyddio gwasanaethau'r Cyngor.

Eglura'r Cynghorydd Jake Berriman, Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Bobl, Perfformiad a Phartneriaethau: "Drwy gymryd rhan yn y arolwg 'Dewch i Siarad: Byw ym Mhowys', rydych chi'n ein helpu i ddeall beth sy'n wirioneddol bwysig i chi a'ch cymuned.

"Mae eich adborth yn hanfodol - nid yn unig ar gyfer llunio gwasanaethau lleol, ond ar gyfer gwneud Powys yn lle gwell i bawb. Mae'n bwysig clywed gan gymaint o breswylwyr â phosibl. Anogwch eich teulu, ffrindiau a chymdogion i gwblhau'r arolwg hwn."

Nod y Cyngor yw casglu mewnwelediadau a fydd yn eu helpu i ddeall yn well:

  • Beth sy'n bwysig i chi
  • Eich profiad o'ch ardal leol
  • Sut rydych yn gweld ac yn rhyngweithio â'r Cyngor

Y dyddiad cau yw dydd Sul 30 Tachwedd 2024.

Llenwch yr arolwg ar-lein yma: https://surveys.data.cymru/s/524ArolwgPreswylwyr_ResidentSurvey/

Am ragor o wybodaeth ewch i: https://www.dweudeichdweudpowys.cymru/dewch-i-siarad-powys

Mae copïau papur a Hawdd eu Darllen o'r arolwg ar gael i'w lawrlwytho neu gellir eu casglu o'ch llyfrgell leol. Dychwelwch y ffurflenni wedi'u llenwi at staff y llyfrgell, neu sganiwch ac ebostiwch nhw i haveyoursay@powys.gov.uk.

Os ydych angen rhagor o gymorth neu'n cael unrhyw anhawster i gwblhau'r arolwg arlein, ebostiwch surveys@data.cymru neu ffoniwch 029 2090 9500.

Mae Data Cymru yn cynnal yr arolwg hwn ar ran Cyngor Sir Powys.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu