Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Rhybudd: Mae diwrnodau ailgylchu a chasglu gwastraff yn newid

Ffyrdd o Dalu

MM way to pay

Talu Drwy Ddebyd Uniongyrchol

Dyma'r ffordd hawsaf o dalu eich rhent a byddwch yn gwybod y bydd yn cael ei dalu'n brydlon. Gallwch naill ai sefydlu debyd uniongyrchol dros y ffôn, gan ddileu'r angen am ffurflenni papur, neu gallwch lenwi'r ffurflen ar-lein. 

Talu ar-lein 

Gallwch dalu eich rhent ar-lein gyda cherdyn credyd neu ddebyd drwy ddefnyddio ein cyfleuster taliadau ar-lein.  Ni fydd manylion eich cerdyn yn cael eu storio gan y cyngor ac ni fyddant yn weladwy ar unrhyw adeg, nac yn hygyrch y tu allan i'r rhwydwaith bancio diogel. 

Llinell dalu 24 awr 

Gallwch ddefnyddio'r gwasanaeth ffôn 24 awr i dalu eich rhent drwy ddefnyddio cerdyn debyd neu gredyd drwy ein llinell dalu awtomataidd: 03300 889 578. 

Datganiadau rhent 

Gallwch ofyn am ddatganiadau bob blwyddyn, ddwywaith y flwyddyn neu bob chwarter naill ai drwy'r post neu drwy e-bost. Cysylltwch â ni ar 01597 827464 i sefydlu hyn.  

Wythnosau di-rent 

Os byddwch yn talu eich rhent yn wythnosol a'ch bod yn gyfredol gyda'ch taliadau, yna eich wythnosau di-rent yw: 

  • 22 Rhagfyr 2025 
  • 29 Rhagfyr 2025 
  • 23 Mawrth 2026 
  • 30 Mawrth 2026 

Os byddwch yn talu eich rhent drwy ddebyd uniongyrchol, yna ymgorfforir eich wythnosau di-rent pan gyfrifir eich taliadau misol.  Mae hyn i sicrhau eich bod yn derbyn eich wythnosau di-rent er eich bod yn talu rhent am 12 mis y flwyddyn. 

Os dymunwch wirio balans eich cyfrif rhent, cysylltwch â'r Gwasanaeth Tai ar 01597 827464. 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu