Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Rhybudd: Mae diwrnodau ailgylchu a chasglu gwastraff yn newid

Gwelliannau Newydd

Repairs new

Tŷ Trefaldwyn, Y Trallwng - Evans Construction 

Yn ein cylchlythyr haf, soniwyd bod gwaith yn dal i fynd rhagddo yn Nhŷ Trefaldwyn. Fel yr addawyd, rydym bellach yn rhannu diweddariad ar ôl i'r adnewyddu gael ei gwblhau gan ein contractwr penodedig Evans Construction. Mae'r adeilad, sy'n darparu llety tai pwysig yn y dref, wedi gweld gwella mawr y tu mewn a'r tu allan. 

Rydym wedi cynnwys rhai lluniau cyn ac ar ôl i ddangos y newidiadau a sut mae'r lle wedi cael ei adnewyddu tra'n parhau i barchu cymeriad a hanes yr adeilad. 

Rhannodd un tenant ei farn: "Mae'n teimlo cymaint mwy golau a mwy croesawgar nawr. Mae wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'r ffordd rwy'n teimlo am ddod adref 

Adnewyddu'r eiddo wedi'i gwblhau -Tref-y-clawdd  

Cwblhawyd adnewyddu llawn yn ddiweddar ar eiddo tair ystafell wely yn Tref-y-clawdd. Cyflawnwyd y gwaith gan ein contractwr lleol Darren Davies ac fe'i rheolwyd gan Gydlynydd Voids, Paul Tabberer. 

Roedd angen uwchraddio'r eiddo yn sylweddol i'w godi i safon. Roedd yr ystafell ymolchi mewn cyflwr gwael, gyda llawr wedi'i ddifrodi a phibellau copr hen ffasiwn. Roedd angen rhoi sylw i'r gegin hefyd, gyda phroblemau yn effeithio ar ddrysau cypyrddau a blaen droriau. Roedd angen ailaddurno'r lolfa i gyd yn arbennig oherwydd staeniau nicotin trwm, gyda nenfydau a waliau wedi'u staenio. 

Cafodd yr eiddo cyfan ei glirio, ei lanhau a'i ailaddurno, gyda charpedi wedi'u gosod o'r newydd drwy'r adeilad. Mae ystafell ymolchi newydd a gwelliannau i'r gegin wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. Mae'r trawsnewid wedi bod yn drawiadol, a gobeithio y bydd y tenantiaid newydd yn mwynhau eu cartref newydd. 

Mae ffotograffau ar ôl y gwaith yn dangos pa mor werth chweli yw'r gwelliannau.

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu