Toglo gwelededd dewislen symudol

Penderfyniadau allweddol ar hyb iechyd a lles newydd yn y Drenewydd i'w gwneud yn y dyddiau nesaf

An artist impression of the North Powys Project building looking from the east

04 Rhagfyr 2025

An artist impression of the North Powys Project building looking from the east
Mae cynigion ar gyfer hyb iechyd a lles newydd yn y Drenewydd yn dechrau cam allweddol, gyda'r cynlluniau presennol ("Achos Busnes Amlinellol") i'w hystyried gan Bwyllgor Craffu Iechyd a Gofal Cyngor Sir Powys cyn mynd gerbron Cabinet Cyngor Sir Powys a Bwrdd Iechyd Addysgu Powys i'w hystyried ar 16 Rhagfyr 2025.

Byddai'r hyb newydd arfaethedig, a fydd yn cael ei adeiladu ar safle swyddfeydd Y Parc, yn gweld ystod eang o wasanaethau'n cael eu darparu dan un to mewn amgylchedd modern, pwrpasol. Ochr yn ochr â gwasanaethau iechyd a lles "siop un stop", mae'r cynlluniau'n cynnwys cyfleusterau hyfforddi newydd i recriwtio a chadw staff iechyd a gofal, gwasanaethau deintyddol cymunedol estynedig, a chlinigau arbenigol newydd ar gyfer pobl â chyflyrau hirdymor sy'n lleihau'r angen i deithio allan o'r sir i Ysbyty Cyffredinol Dosbarth.

Mae'r hyb hefyd yn gam hanfodol tuag at ail gam yn y dyfodol a fyddai'n gweld ysbyty newydd yn y dref gan gynnwys cyfleusterau diagnosteg a thriniaeth estynedig fel bod mwy o ofal a thriniaeth yn cael eu darparu ym Mhowys.

Yn ystod yr wythnosau diwethaf, cynhaliwyd cyfres o ddigwyddiadau ymgysylltu i gasglu adborth gan drigolion, defnyddwyr gwasanaeth, staff a sefydliadau partner. Dywedodd y Cynghorydd Pete Roberts, Aelod Cabinet y cyngor sydd â chyfrifoldeb am raglen Lles Gogledd Powys: "Mae hwn wedi bod yn gyfle gwerthfawr i glywed ystod eang o safbwyntiau gan bobl a fydd yn defnyddio'r gwasanaethau newydd hyn, a gan drigolion lleol. Er enghraifft, rydym wedi clywed ystod eang o adborth defnyddiol am leoliad y cyfleuster newydd. Mae'r adborth hwn wedi ein helpu ni adolygu a phrofi'r cynigion fel ein bod yn gwneud y penderfyniadau gorau ar gyfer heddiw ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol."

Dywedodd Lucie Cornish, Cyfarwyddwr Gwella a Thrawsnewid y bwrdd iechyd: "Thema allweddol rydyn ni wedi'i chlywed yn ystod ein hymgysylltiad yw bod pobl eisiau i wasanaethau iechyd a lles fod yn fwy cydgysylltiedig. Byddai'r cynlluniau hyn yn cyflawni hyn drwy ddod â mwy o wasanaethau'r bwrdd iechyd a'r cyngor at ei gilydd o dan un to. Bydd hyn yn gwella'r gwasanaethau a gynigir i'n preswylwyr a'n cleifion drwy berthnasoedd gwaith agosach mewn adeilad pwrpasol, fel rhan o'r prosiect mwyaf uchelgeisiol o'i fath yr ydym wedi'i weld ym Mhowys."

Bydd cyfarfodydd nesaf y Pwyllgor Craffu, y Cabinet a'r Bwrdd yn ystyried cynigion wedi'u diweddaru ar gyfer yr hyb iechyd a lles newydd sydd wedi'u llywio gan adborth ymgysylltu. Mae'r cynlluniau hyn - a elwir yn Achos Busnes Amlinellol - yn gam allweddol wrth ofyn am gyllid cyfalaf ar gyfer prosiectau mawr.

Ochr yn ochr â chynlluniau ar gyfer cyfleusterau iechyd a lles newydd yn y Drenewydd, mae Rhaglen Lles Gogledd Powys hefyd yn datblygu cynlluniau ehangach i wella iechyd a lles yng Ngogledd Powys. Mae hyn yn cynnwys llety newydd i fyfyrwyr a gweithwyr iechyd a gofal yn y dref, yn ogystal â llety â chymorth. 

Gwybodaeth Bellach:

Os caiff ei gymeradwyo gan y Cabinet a'r Bwrdd Iechyd, byddai'r camau nesaf yn cynnwys:

  • Erbyn diwedd mis Rhagfyr: Cyflwyno Achos Busnes Amlinellol i Lywodraeth Cymru
  • Yn ystod 2026/27: Ystyriaeth gan Lywodraeth Cymru o'r Achos Busnes Amlinellol. Cyflwyno cais cynllunio. Datblygu Achos Busnes Llawn mwy manwl.
  • Yn ystod 2027/28: Yn amodol ar ganiatâd cynllunio a chymeradwyaeth yr Achos Busnes Llawn, byddai gwaith adeiladu ar y gweill.
  • Yn ystod 2028/29: Cwblhau hyb iechyd a lles newydd yn y Drenewydd.
  • Ochr yn ochr â'r gwaith hwn, datblygu'r achos busnes ar gyfer ysbyty cymunedol newydd, yn lle Ysbyty Sir Trefaldwyn y dref, a gwella cyfleusterau diagnosteg a thriniaeth yn y dref.

Mae'r hyb newydd yn gam cyntaf hanfodol cyn datblygu achos busnes pellach i gymryd lle Ysbyty Sir Trefaldwyn, ac i ehangu'r ystod o wasanaethau diagnosteg a thriniaeth yng ngogledd Powys, gan leihau'r angen i deithio i Ysbyty Cyffredinol Dosbarth. Bydd yn sicrhau dull mwy cydgysylltiedig o ddarparu gwasanaethau iechyd a lles, ac yn cynyddu'r ystod o wasanaethau a ddarperir yn Y Drenewydd gan gynnwys:

  • Gwasanaeth deintyddol cymunedol estynedig.
  • Gwasanaethau gofal sylfaenol lleol gan gynnwys clinigau arbenigol ar gyfer pobl â chyflyrau hirdymor.
  • Canolfan hyfforddi newydd i helpu mwy o bobl i ddilyn gyrfaoedd mewn iechyd a gofal cymdeithasol yn ogystal â chefnogi staff presennol y bwrdd iechyd a'r cyngor.
  • Cartref newydd i Ganolfan Integredig i Deuluoedd y Drenewydd gyda iard wedi'i gynllunio'n benodol ar gyfer plant ifanc a'u rhieni.
  • Cartref newydd i lyfrgell gyhoeddus y dref ynghyd â llyfrgell academaidd newydd i gefnogi'r rhai sy'n astudio yn y ganolfan hyfforddi.
  • Cartref newydd i dîm gwasanaethau plant y bwrdd iechyd (gan gynnwys staff fel ymwelwyr iechyd)
  • Cartref newydd i dimau iechyd meddwl y bwrdd iechyd ar gyfer plant, pobl ifanc ac oedolion gan gynnwys gardd synhwyraidd o fewn ail iard.
  • Ystafelloedd aml-ddefnydd i alluogi amrywiaeth o sesiynau cymorth lles, fel cyngor ariannol neu ioga neu sesiwn canu er lles iechyd, gan gynnwys cyflwyniadau gan grwpiau gwirfoddol a phartneriaid eraill yn y sector cyhoeddus.

Mae rhagor o wybodaeth am raglen Lles Gogledd Powys ar gael yn https://www.dweudeichdweudpowys.cymru/hub-page/lles-gogledd-powys

Cofrestrwch am ddiweddariadau rheolaidd ar raglen Lles Gogledd Powys drwy gysylltu â powyswellbeing.north@wales.nhs.uk

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu