Toglo gwelededd dewislen symudol

Etifeddiaeth barhaol i Bowys

Wind turbines and solar panels

10 Rhagfyr 2025

Wind turbines and solar panels
Mae angen i brosiectau seilwaith ynni cenedlaethol a gymeradwyir gan Lywodraeth Cymru ddarparu etifeddiaeth barhaol i gymunedau ym Mhowys, yn ôl Cabinet y Cyngor Sir.

Mae Cynllun Ynni cymeradwy'r Rhanbarth yn rhagweld newid i system ynni carbon isel sy'n darparu buddion cymdeithasol ac economaidd, yn dileu tlodi tanwydd, ac yn cysylltu Powys â gweddill y DU yn well.

Mae'n egwyddor glir y dylai, wrth wneud hynny, sicrhau newid teg a chyfiawn i ddyfodol gwyrddach, cefnogi buddsoddiad yn y rhanbarth, creu swyddi, ynni fforddiadwy ac annog mwy o berchenogaeth ar asedau ynni yn y gymuned a'r sector cyhoeddus. Fodd bynnag, nid dyma'r hyn y mae'r Llywodraeth na'r busnes mawr yn ei gynnig, ac o'r herwydd mae'r Cabinet yn meddwl yn wahanol ac yn profi syniad newydd er budd pobl Powys yn well pe bai gweinidogion Cymru yn bwrw ymlaen ag unrhyw brosiectau ynni ar raddfa fawr.

Mae'r Cabinet yn cynnig cynllun lle mae cynlluniau ynni ar raddfa fawr a gymeradwyir gan y Llywodraeth yn darparu'r gronfa budd cymunedol sydd wedi dod yn safon diwydiant, a chyfran elw o bum y cant i'w defnyddio ar gyfer blaenoriaethau'r cyngor gydol cyfnod gweithredu'r prosiect.

Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Jake Berriman: "Rydym am sefydlu cynllun gwirfoddol sy'n gofyn am bob prosiect ynni ar raddfa fawr (10 Megawat ac uwch) sydd am wneud busnes ym Mhowys i roi o leiaf pump y cant o gyfran elw lleol i ddarparu etifeddiaeth barhaol er budd holl gymunedau Powys.

"Ar hyn o bryd, mae Powys yn profi graddfa ddigynsail o ddatblygu ynni arfaethedig, gyda 16 o geisiadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (DNS) ar y gweill ledled y sir.

"Yn amlwg, nid yw'r holl gynlluniau hyn yn mynd i gael eu cymeradwyo gan y Llywodraeth, ond pe byddent, byddai cymunedau'n wynebu hyd at 306 o dyrbinau gwynt, gyda photensial cyfunol i bweru hyd at ddwy filiwn o gartrefi, ond dim un ym Mhowys. Mae'r nifer sylweddol a chrynhoad y prosiectau hyn yn codi pryderon sylweddol i gymunedau lleol.

"Ochr yn ochr ag Aelodau lleol a Chynghorau Tref a Chymuned, mae'r Awdurdod Cynllunio Lleol yn ymgynghorai ar y prosiectau mawr a bydd yn darparu ymateb technegol i bob cais sydd wedi'i gofrestru i gael ei ystyried gan Benderfyniadau Cynllunio a'r Amgylchedd Cymru (PEDW).

"Gadewch i ni fod yn glir nid Cyngor Sir Powys sy'n gwneud y penderfyniadau ar gyfer y ceisiadau ynni ar raddfa fawr hyn, rôl PEDW yw hynny. Fel cyngor rydym eisoes wedi galw ar Lywodraeth Cymru i oedi ei gwahoddiad agored i geisiadau ffermydd gwynt mawr ar y tir ym Mhowys gan adlewyrchu pryder trigolion am effaith benodol a chronnus a diffyg capasiti grid cenedlaethol sy'n gwadu mynediad i'n cymunedau at yr ynni sy'n cael ei gynhyrchu yma yn y sir.

"Ond pe bai ceisiadau yn cael eu cymeradwyo yn y dyfodol, rydym yn galw am gyfran wirfoddol o bum y cant o elw er budd a newid mewn llywodraethu i'r cronfeydd budd cymunedol er mwyn sicrhau mwy o gyrhaeddiad ar draws Powys gyfan i ddarparu etifeddiaeth barhaol bendant i genedlaethau'r dyfodol."

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu