Toglo gwelededd dewislen symudol

Cyllid wedi'i ymestyn ac amserlen yn cael ei ddiwygio ar gyfer llwybr bws hanfodol yr X48

Image of a Celtic Travel bus

15 Rhagfyr 2025

Image of a Celtic Travel bus
Ar ôl 12 mis cyntaf llwyddiannus, bydd y cyllid ar gyfer y gwasanaeth X48 o Craven Arms i Lanfair-ym-Muallt yn parhau am flwyddyn arall.

Wedi'i ariannu gan Gyngor Sir Powys a Thrafnidiaeth Cymru, mae'r gwasanaeth X48 yn cael ei redeg gan Celtic Travel ac mae'n gweithredu chwe diwrnod yr wythnos (ac eithrio dydd Sul a gwyliau banc), gan ddarparu cyswllt hanfodol ar hyd linell Calon Cymru.

Yn dilyn adolygiad diweddar o'r gwasanaeth, gan gynnwys adborth gan deithwyr, trigolion a busnesau, mae amserlen newydd a gwell ar gael nawr (o 15 Rhagfyr), ac mae'n cynnwys:

  • Pedair taith bws y dydd, 6 diwrnod yr wythnos
  • Taith fws rhwng Craven Arms a Llandrindod sy'n llenwi'r 'bwlch trên' ar Linell Calon Cymru rhwng 11:30am a 16:09pm (amseroedd gadael trên o'r Amwythig)
  • Taith fws olaf estynedig y noson, bellach yn cychwyn yn yr Amwythig yn hytrach na Craven Arms, gan adael am 21:35pm. Mae'r daith fws hon yn parhau i Landrindod (yn cyrraedd am 23:40pm) ac yna i Lanfair-ym-Muallt (yn cyrraedd am 23:50pm) gan gynnig gwasanaeth hanfodol yn hwyr y nos i gwsmeriaid.

Dywedodd y Cynghorydd Jackie Charlton, Aelod Cabinet Cyngor Sir Powys dros Bowys Wyrddach:

"Mae Powys wedi elwa o ailwampio a gwella ei rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus yn ddiweddar ac rydym yn falch iawn o ymrwymo i 12 mis pellach o gyllid ar gyfer y llwybr bws rhwng Craven Arms a Llanfair-ym-Muallt."

"Ychwanegwyd yr X48 at ein rhwydwaith o lwybrau bysiau fel treial fis Rhagfyr diwethaf gyda dros 5,200 o deithwyr yn defnyddio'r llwybr yn y flwyddyn gyntaf. Rydym yn gobeithio y bydd yr amserlen well yn caniatáu i fwy o bobl elwa o'r cyswllt trafnidiaeth hanfodol hwn.

"Cofiwch ddefnyddio ein map llwybrau bysiau rhyngweithiol newydd a chael cipolwg ar yr amserlen newydd cyn cynllunio eich taith nesaf."

Dywedodd Lee Robinson, Cyfarwyddwr Gweithredol Trafnidiaeth Ranbarthol ac Integreiddio, Trafnidiaeth Cymru:

"Mae'r gwasanaeth X48 yn dangos sut mae Trafnidiaeth Cymru a Chyngor Sir Powys yn cydweithio i ddarparu rhwydwaith trafnidiaeth mwy integredig a chynaliadwy fel rhan o'r rhaglen Pontio i Fasnachfreinio.

"Mae'r cydweithrediad hwn yn gam allweddol tuag at uchelgeisiau diwygio bysiau Llywodraeth Cymru, gan sicrhau gwell cysylltedd rhwng cymunedau gwledig a gwasanaethau rheilffordd, gan gefnogi targedau amgylcheddol a gwella hygyrchedd.

"Drwy alinio buddsoddiad a chynllunio, rydym yn creu sylfaen gryfach ar gyfer rhwydwaith masnachfraint y dyfodol ac yn darparu manteision gwirioneddol i gwsmeriaid heddiw."

Gellir dod o hyd i ddolenni i amserlenni ar Bysiau Lleol

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu