Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Rhybudd: Mae diwrnodau ailgylchu a chasglu gwastraff yn newid

Gostyngiad Trosiannol Ebrill 2026 - Mawrth-2028

Cyflwyniad 

Bydd y cynllun rhyddhad trosiannol hwn yn cyfyngu ar gynnydd mewn biliau NDR, o ganlyniad i'r ailbrisio ar 1 Ebrill 2026.

Bydd trethdalwr cymwys yn talu 33% o'i rwymedigaeth ychwanegol yn y flwyddyn gyntaf (2026-27) a 66% yn yr ail flwyddyn (2027-28), cyn cyrraedd ei rwymedigaeth lawn yn y drydedd flwyddyn (2028-29).

Ariennir y rhyddhad trosiannol yn llawn gan Lywodraeth Cymru a chaiff ei ddiffinio yn Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Symiau a Godir) (Cymru) 2025. Mae'r Rheoliadau yn rhagnodi rheolau sydd i'w defnyddio i gyfrifo'r swm a godir ar gyfer eiddo cymwys sydd â chynnydd yn ei rwymedigaeth NDR o fwy na £300, o ganlyniad i'r ailbrisiad.

Mae'r rhyddhad ar gael i drethdalwyr ar y rhestr leol ac ar y rhestr ganolog.

Mae Llywodraeth Cymru yn darparu £116m dros ddwy flynedd i ariannu'r rhyddhad trosiannol hwn, gan gefnogi holl feysydd y sylfaen drethu drwy gynllun cyson a syml.

Pa eiddo fydd yn gallu manteisio ar y rhyddhad?

Nid yw cymhwysedd ar gyfer rhyddhad trosiannol wedi'i gyfyngu i unrhyw sector, maint, na defnydd o'r eiddo (hereditament) o fewn y sylfaen drethu NDR. 

Er mwyn bod yn gymwys am ryddhad trosiannol, rhaid i'r hereditament:

  • fod wedi'i ddangos ar restr leol neu ar y rhestr ganolog ar 31 Mawrth 2026 (y diwrnod cyn i'r rhestrau newydd a lunnir ar 1 Ebrill 2026 gael effaith).
  • bod â chynnydd mewn rhwymedigaeth (STG > RhS) o fwy na £300.
  • cael yr un trethdalwr ar y diwrnod perthnasol ag a oedd yn drethdalwr ar 31 Mawrth 2026 (os bydd person gwahanol yn dod yn drethdalwr, bydd y rhyddhad yn peidio â bod yn gymwys);
  • bod wedi'i feddiannu (gan yr un trethdalwr y cyfeirir ato uchod) ar 31 Mawrth 2026.
  • peidio â bod yn ddarostyngedig i ddosraniad ar gyfer eiddo a feddiennir yn rhannol o dan adran 44A o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 (Deddf 1988).

Ceir rhagor o fanylion yn Ardrethi Annomestig - Rhyddhad Ardrethi Trosiannol ar gyfer Ailbrisiad 2026 | Busnes Cymru