Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Rhybudd: Bydd dyddiau casglu gwastraff ac ailgylchu yn newid dros y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd.

Cefnogaeth ar gyfer cynllun gwaddol i Bowys

Wind turbines with the sun shining behind them

16 Rhagfyr 2025

Wind turbines with the sun shining behind them
Mae angen i brosiectau seilwaith ynni cenedlaethol a gymeradwyir gan Lywodraeth Cymru ddarparu gwaddol parhaol i gymunedau ym Mhowys, yn ôl Cabinet y Cyngor Sir.

Mae Cynllun Ynni cymeradwy'r Rhanbarth yn rhagweld newid i system ynni carbon isel sy'n darparu buddion cymdeithasol ac economaidd, yn dileu tlodi tanwydd, ac yn cysylltu Powys â gweddill y DU yn well.

Mae'n egwyddor glir y dylai wrth wneud hynny, sicrhau newid teg a chyfiawn i ddyfodol gwyrddach, cefnogi buddsoddiad yn y rhanbarth, creu swyddi, ynni fforddiadwy ac annog mwy o berchenogaeth ar asedau ynni yn y gymuned a'r sector cyhoeddus. Fodd bynnag, nid dyma'r hyn y mae'r Llywodraeth na busnesau mawr yn ei gynnig, ac o'r herwydd mae'r Cabinet yn meddwl yn wahanol ac yn profi syniad newydd a fyddai'n rhoi budd gwell i bobl Powys pe bai gweinidogion Cymru yn bwrw ymlaen ag unrhyw brosiectau ynni ar raddfa fawr.

Heddiw (Rhagfyr 16), cefnogodd y Cabinet argymhelliad y dylai cynlluniau ynni ar raddfa fawr a gymeradwyir gan y Llywodraeth ddarparu cronfa budd cymunedol i ddod yn safon y diwydiant, a chyfran elw o bump y cant i'w defnyddio ar gyfer blaenoriaethau'r cyngor drwy gydol cyfnod gweithredu'r prosiect.

Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Jake Berriman: "Rydym yn galw am gynllun gwirfoddol sy'n gofyn i bob prosiect ynni ar raddfa fawr (10 Megawat ac uwch) sydd am wneud busnes ym Mhowys i roi o leiaf pump y cant o gyfran elw lleol i ddarparu gwaddol er budd holl gymunedau Powys.

"Ar hyn o bryd, mae Powys yn profi graddfa ddigynsail o ddatblygiadau ynni arfaethedig, gyda 16 cais o Ddatblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (DNS) yn yr arfaeth ledled y sir.

"Yn amlwg, nid yw'r holl gynlluniau hyn yn mynd i gael eu cymeradwyo gan y Llywodraeth ond pe byddent, byddai cymunedau'n wynebu hyd at 306 o dyrbinau gwynt, gyda photensial cyfunol i bweru hyd at ddwy filiwn o gartrefi, ond ni fyddai un o'r rhain ym Mhowys. Mae nifer a dwysedd y prosiectau hyn yn codi pryderon sylweddol yng nghymunedau lleol.

"Ochr yn ochr ag Aelodau lleol a Chynghorau Tref a Chymuned, mae'r Awdurdod Cynllunio Lleol yn ymgynghorai ar y prosiectau mawr a bydd yn darparu ymateb technegol i bob cais sydd wedi'i gofrestru i gael ei ystyried gan Benderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PEDW).

"Gadewch i ni fod yn glir, nid Cyngor Sir Powys sy'n gwneud y penderfyniad ar y ceisiadau ynni mawr hyn, rôl PEDW yw hynny. Fel cyngor rydym eisoes wedi galw ar Lywodraeth Cymru i oedi ei gwahoddiad agored ar gyfer ceisiadau ffermydd gwynt mawr ar y tir ym Mhowys. Mae hyn yn adlewyrchu pryder trigolion am effaith benodol a chronnus a diffyg capasiti grid cenedlaethol sy'n gwrthod mynediad i'n cymunedau at yr ynni sy'n cael ei gynhyrchu yma yn y sir.

"Ond pe bai ceisiadau yn cael eu cymeradwyo yn y dyfodol, rydym yn galw am gyfran wirfoddol o bump y cant o'r elw a newid mewn llywodraethu i'r cronfeydd budd cymunedol er mwyn sicrhau mwy o gyrhaeddiad ar draws Powys gyfan i ddarparu gwaddol parhaol go iawn i genedlaethau'r dyfodol."

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu