Tynnu Ysgol Bro Caereinion o adolygiad Estyn
18 Rhagfyr 2025
Barnodd Estyn, arolygiaeth addysg a hyfforddiant Cymru, fod yr ysgol wedi gwneud cynnydd priodol gyda'r materion allweddol oedd angen gweithredu arnynt, ac wrth ddatblygu'r gallu i barhau i sicrhau gwelliannau.
Meddai'r Cynghorydd James Gibson-Watt, Aelod Cabinet dros Bowys sy'n Dysgu: "Mae hyn yn newyddion cadarnhaol iawn i Ysgol Bro Caereinion ac yn adlewyrchu ymrwymiad a gwaith caled y pennaeth, staff, llywodraethwyr, dysgwyr a chymuned ehangach yr ysgol. Mae eu penderfyniad i wneud gwelliannau wedi bod yn glir, ac mae'r canlyniad hwn yn dyst i'r ymdrechion hynny.
"Er bod hyn yn garreg filltir bwysig, bydd y cyngor yn parhau i weithio'n agos gydag Ysgol Bro Caereinion i gefnogi ei thaith gwella parhaus. Mae hyn yn cynnwys datblygu cynnydd yr ysgol ar hyd continwwm yr Iaith Gymraeg a pharatoi ar gyfer cyflwyno Trochi hwyr o fis Medi 2026, gan sicrhau bod yr ysgol yn parhau i fod yn gynhwysol ac yn hygyrch i bob disgybl.
"Edrychwn ymlaen at adeiladu ar y cynnydd hwn gyda'n gilydd a pharhau i weld yr ysgol yn gwella ac yn ymdrechu i sicrhau'r safonau addysg uchaf i'n dysgwyr ym Mhowys."
