Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Rhybudd: Bydd dyddiau casglu gwastraff ac ailgylchu yn newid dros y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd.

Creu cynefin gwlypdiroedd newydd i hybu planhigion prin ar Gamlas Trefaldwyn

John Dodwell, Steve Witherden MP and Ben Cottam at the opening of Wern Pond

30 Rhagfyr 2025

John Dodwell, Steve Witherden MP and Ben Cottam at the opening of Wern Pond
Bydd planhigion dyfrol prin yn cael lle i ffynnu ar hyd Camlas Trefaldwyn mewn cynefin gwlypdiroedd newydd yn y Wern ym Mhowys ar ôl iddo gael ei agor mewn seremoni gan yr Aelod Seneddol dros Sir Drefaldwyn a Glyndŵr, Steve Witherden.

Mae Glandŵr Cymru, Yr Ymddiriedolaeth Camlas ac Afonydd yng Nghymru, wedi creu'r ardal gadwraeth newydd, ychydig oddi ar yr A483 ger Lôn Coppice, fel rhan o'r gwaith i adfer y gamlas, gyda chefnogaeth llywodraeth y DU, gan weithio mewn partneriaeth â Chyngor Sir Powys a chymorth Partneriaeth Camlas Trefaldwyn.

Mae'r gamlas yn cael ei chydnabod fel Ardal Cadwraeth Arbennig a Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig oherwydd ei bywyd planhigion prin. Mae'r gronfa newydd yn cynnwys pwll 1.5 metr o ddyfnder, wedi'i gysylltu â'r gamlas, a fydd yn cynnwys planhigion dyfr-lyfiad, rhywogaethau o blanhigion dyfrol a warchodir a geir yn yr ardal, a hefyd potamogeton, dyfrllys sydd o fudd i fywyd gwyllt. Mae'n un o ddau safle sy'n cael eu cynnig ar hyd y gamlas i ddarparu'r amgylchedd sy'n ofynnol ar gyfer planhigion prin, a chynefin gwerthfawr ar gyfer rhywogaethau a bywyd gwyllt eraill fel blodau gwyllt ac adar.

Dywedodd Richard Harrison, prif reolwr prosiect Glandŵr Cymru: "Mae'r lle arbennig hwn ar gyfer natur wrth ymyl Camlas Trefaldwyn yn creu ardal newydd o gynefin gwlypdiroedd a fydd yn helpu i hybu bywyd dyfrol lleol, yn enwedig y planhigion dŵr gwarchodedig. Mae cwblhau'r pwll yn garreg filltir bwysig, sy'n rhan o sicrhau y bydd y bywyd gwyllt y mae'r gamlas yn ei gefnogi yma am genedlaethau i ddod."

Cynhaliwyd seremoni ddydd Gwener 12 Rhagfyr i nodi cwblhau'r prosiect gyda Steve Witherden AS yn plannu coeden wrth i gyfarwyddwr rhanbarthol Glandŵr Cymru, Ben Cottam, cadeirydd Partneriaeth Camlas Trefaldwyn, John Dodwell, a gwesteion eraill a gwirfoddolwyr Glandŵr Cymru yn ymuno â nhw i ddathlu.

Dywedodd Steve Witherden AS: "Roedd yn anrhydedd cael mynychu agoriad y warchodfa gwlypdiroedd newydd yn y Wern yr wythnos ddiwethaf. Nodais yr achlysur drwy blannu coeden afalau - symbol y bydd y camau a gymerwn heddiw i ddiogelu bywyd gwyllt yn golygu y gall cenedlaethau'r dyfodol barhau i elwa ar fyd naturiol ffyniannus."

Dywedodd y Cynghorydd Glyn Preston, Aelod Cabinet Cyngor Sir Powys dros Bowys Fwy Llewyrchus: "Mae trigolion wedi dweud wrthym fod gwelliannau ecolegol yn rhan bwysig o Brosiect Adfer Camlas Trefaldwyn a ariennir gan Lywodraeth y DU, felly mae'n wych gweld bod y gwaith hwn ar gynefin gwlypdiroedd newydd wrth ochr y ddyfrffordd wedi'i gwblhau. Bydd cael lle ychwanegol i blannu planhigion dŵr yn ei helpu, a phlanhigion dyfrol prin eraill, i oroesi a ffynnu yn y rhan hon o ogledd-ddwyrain Powys."

Mae creu'r cynefinoedd gwlypdiroedd hyn yn rhan o'r gwaith o adfer Camlas Trefaldwyn yn y tymor hir. Bydd y gwaith adfer yn galluogi traffig cychod i ailddechrau a chyrraedd Y Trallwng, gan hyrwyddo twf economaidd drwy gynyddu nifer yr ymwelwyr â'r ardal.

Dechreuodd y gwaith ar y cynefin newydd ym mis Mai ac fe'i cyflawnwyd gan gontractwyr Kier. Fel rhan o'r gwaith, cadwyd rhywfaint o'r deunydd a oedd yna'n barod ar safle i helpu i adeiladu'r byndiau i gartrefu cynefin coetir newydd a gwella'r cynnydd net cyffredin ar gyfer bioamrywiaeth ar y safle.

Dywedodd Eddie Quinn, rheolwr gyfarwyddwr Kier Natural Resources, Nuclear & Networks: "Mae wedi bod yn wych i'n tîm allu dod â'u harbenigedd a'u profiad yn y maes peirianneg gan greu cynefinoedd gwlypdiroedd hanfodol i wella'r amgylchedd yn y Wern. Rydym i gyd yn edrych ymlaen at weld natur yn ffynnu a chymunedau'n elwa o'r cynllun cadwraeth arbennig hwn."

Ychwanegodd John Dodwell, cadeirydd Partneriaeth Camlas Trefaldwyn: "Mae'n wych gweld y prosiect cyntaf hwn yn cael ei gwblhau er mwyn symud ymlaen ag adfer y Gamlas yn yr ardal hon. Bydd yn daith hir i gwblhau'r dasg o ailgysylltu'r 13 milltir sydd eisoes wedi'i adfer o gwmpas Y Trallwng i'r rhwydwaith dyfrffyrdd cenedlaethol ond rydym yn gweithio arno."

Mae creu Pwll y Wern ar waith wrth i waith barhau ar adeiladu pont ffordd newydd ar draws y gamlas yn Lôn Carreghofa, ger Llanymynech.

Fel cynefin gwlypdiroedd sy'n werthfawr i fywyd gwyllt, mae Glandŵr Cymru yn cynghori pobl y gallant weld y pwll o lwybr tynnu'r gamlas. Mae parcio ar gael yng ngwarchodfa Pyllau Clai y Wern gerllaw lle gallwch barcio am ddim a cherdded ar hyd y llwybr tynnu i'r safle.

Mae'r gwaith o adfer Camlas Trefaldwyn wedi cynnwys degawdau o waith gan wirfoddolwyr a phartneriaid. Mae Glandŵr Cymru yn gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Sir Powys gyda chymorth Partneriaeth Camlas Trefaldwyn, i gyflawni'r gwaith adfer.

I ddarganfod mwy am y gwaith adfer, o Lanymynech i'r Maerdy, ewch i wefan yr Ymddiriedolaeth y Gamlas ac Afonydd.

Llun: John Dodwell (chwith), Steve Witherden AS (canol) a Ben Cottam yn agoriad Pwll y Wern.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu