MBE i ofalwr maeth o Bowys sy'n dweud ei bod yn 'rhan o dîm'
2 Ionawr 2026
Meddai Mair Wilson, sy'n dweud ei bod hi'n rhan o dîm sy'n darparu gofal gyda'i gŵr Roy, eu plant eu hunain Nia, Rhys a Dale, a hyd yn oed ffrindiau teuluol: "Dwi'n parhau i fod eisiau pinsio fy hun, dwi'n mynd i ddeffro mewn munud.
"Mae'n hyfryd iawn. Mae hyn yn fraint fawr i mi ac rwy'n teimlo'n ostyngedig hefyd, alla i ddim credu'r peth."
Mae Mair a Roy, sy'n byw ger Llandrindod, wedi gofalu am 13 o blant ar leoliad hirdymor a llawer mwy ar gyfer arosiadau tymor byr, seibiant ac argyfwng.
Er y gall y rôl fod yn heriol - gan fod nifer o'r plant wedi profi trawma - mae'n dweud y gall hefyd fod yn werth chweil.
"Pan fyddwch chi'n eu gweld nhw wrth eu gwaith, neu pan fydd ganddynt deuluoedd eu hunain, ac rydych chi'n gweld sut maen nhw gyda'u plant eu hunain - a'u bod nhw'n deuluoedd hyfryd - dyna'r wobr," meddai.
Roedd ganddynt lond tŷ gyda 17 o bobl ar Ddiwrnod 'Dolig - yng nghartref eu merch - a 24 ar Ddydd San Steffan, wrth i lawer o'u plant maeth blaenorol ddychwelyd i ymweld.
Ychwanegodd Mair: "Y peth sydd ei angen fwyaf arnoch chi fel gofalwr maeth yw cred. Mae angen ichi gredu y gallant gyflawni. Os ydych chi'n credu ynddynt, maen nhw'n dechrau credu ynddynt eu hunain a dyna pryd y byddwch chi'n dechrau gwneud cynnydd."
Talodd deyrnged hefyd i'r gefnogaeth y mae'n ei derbyn gan Dîm Maethu Cyngor Sir Powys ac ychwanegodd: "Allen ni ddim dymuno gwell a dweud y gwir."
Dysgwch fwy am faethu ym Mhowys: https://powys.maethucymru.llyw.cymru/
Os oes gennych ddiddordeb mewn dod yn ofalwr maeth, gallwch lenwi ffurflen ar-lein, e-bostiwch: fostering@powys.gov.uk neu ffoniwch: 0800 22 30 627.
Mae Mair a Roy hefyd wedi eu henwebu am wobr Barcud Arian (Cyngor Sir Powys), am eu gwaith fel gofalwyr maeth, a byddant yn ei chasglu yn ddiweddarach y mis hwn (Ionawr).
LLUN: Mair Wilson, sydd wedi derbyn cydnabyddiaeth am ei gwaith fel gofalwr maeth yn Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd, gyda'i gŵr Roy.
