Oedi mewn ysbytai wedi'i leihau o draean ar ôl recriwtio mwy o staff gofal cymdeithasol
6 Ionawr 2026
Defnyddiwyd Grant Trawsnewid Llwybrau Gofal gwerth £1.3 miliwn, a ddyfarnwyd gan Lywodraeth Cymru, i ariannu gweithwyr cymdeithasol, therapyddion galwedigaethol ac aseswyr galluogi ychwanegol. Ac mae'n dilyn gwaith gan y cyngor, drwy gydol y flwyddyn, i gryfhau'r farchnad gofal cartref.
Ddeuddeg mis yn ôl roedd 60 o gleifion Powys yn aros am ofal cymdeithasol cyn y gallent adael ysbytai cymunedol yn y sir, neu ysbytai cyffredinol dosbarth mwy yn Lloegr (Amwythig, Telford a Henffordd). Eleni, mae'r ffigur hwnnw wedi gostwng i 38.
Defnyddiwyd y grant i gryfhau cydlynu rhyddhau cleifion, gyda'r nifer o gyrff iechyd sy'n gwasanaethu cleifion Powys, ac i gynyddu capasiti asesu gofal cymdeithasol a gofal cartref.
"Mae lleihau oedi gofal cymdeithasol ar yr adeg hon o'r flwyddyn yn gamp sylweddol ac yn dyst i ymroddiad ein timau rheng flaen a'r ddarpariaeth o gyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru," meddai'r Cynghorydd Pete Roberts, Aelod Cabinet Cyngor Sir Powys dros Bowys Gofalgar. "Byddwn yn parhau i adeiladu ar y cynnydd hwn i sicrhau bod cleifion yn derbyn gofal a chymorth amserol, cydlynol a phersonol."
Mae'r Grant Trawsnewid Llwybrau Gofal wedi gweld £30 miliwn yn cael ei ddyrannu i gynghorau sir ledled Cymru i'w wario ar ofal cymdeithasol cymunedol yn ystod y flwyddyn ariannol gyfredol.
Gofynnodd Llywodraeth Cymru i Bowys wario ei gyfran ar leihau nifer y bobl sy'n aros am y canlynol:
- Dyrannu gweithiwr cymdeithasol
- Cwblhau asesiad gan ofal cymdeithasol
- Dechrau pecyn gofal cymunedol newydd a ariennir gan ofal cymdeithasol
- Pecyn gofal cymunedol ailalluogi
Rhagor o wybodaeth am weithio ym maes gofal cymdeithasol ym Mhowys:
- Gweithio i Gyngor Sir Powys: Gweithio ym maes Gofal Cymdeithasol Oedolion
- Gweithio i asiantaeth gofal: https://cy.powys.gov.uk/gweithiwrgofalcartref
Rhagor o wybodaeth am gael mynediad at gymorth a chyngor:
- Cysylltu â thîm Drws Blaen y cyngor: CYMORTH
- Cymorth gartref ledled Powys, gan gynnwys Cymorth Cartref: Cymorth ac Atal Cynnar yn y Cartref
LLUN: Aelodau o Dîm Drws Ffrynt Cyngor Sir Powys sydd wedi'i ehangu i leihau oedi yn yr ysbyty.
