Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Rhybudd: Er bod amodau'r tywydd yn parhau'n oer, byddwn yn graeanu'r prif ffyrdd a llwybrau ledled Powys yn ôl yr angen.

Eiddo yn y Trallwng wedi'u heffeithio gan ollyngiad o olew gwresogi

Image of Welshpool

8 Ionawr 2026

Image of Welshpool
Mae digwyddiad llygredd wedi digwydd yn dilyn achos o danc olew gwresogi yn gollwng yn hen Ysgol Ardwyn yn y Trallwng, meddai Cyngor Sir Powys.

Mae'r digwyddiad wedi arwain at ollwng swm anhysbys o olew o'r safle ac mae hyn yn effeithio ar eiddo yn y dref. Mae'r tirfeddiannwr yn ymwybodol o'r sefyllfa ac ar hyn o bryd mae'n dechrau camau i wneud y safle'n ddiogel.

Nid yw'r olew'n gollwng bellach.

Mae criw Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o'r Trallwng wedi ymateb ac wedi bod ar y safle ddydd Mercher, Ionawr 7fed a dydd Iau, Ionawr 8fed. Mae aelodau'r criw wedi defnyddio padiau a gronynnau amsugno i gael gwared ar yr olew sydd ar yr wyneb ac i atal halogiad pellach o'r cyflenwad dŵr lleol.

Mae Cyhoeth Naturiol Cymru yn cynnal ymchwiliadau pellach i'r digwyddiad llygredd hwn ynghyd â sefydliadau partner.

Os ydych chi'n aroglu olew gwresogi (cerosin) y tu mewn i'ch eiddo, fe'ch cynghorir i awyru'r ystafelloedd yr effeithir arnynt, lle bo'n bosibl.

Os yw'ch cyflenwad dŵr yn cael ei effeithio (gan flas neu arogl) dylech gysylltu â Hafren Dyfrdwy ar 0800 0858033 am gyngor.

Efallai yr hoffech hefyd ystyried cysylltu â'ch yswiriwr cartref am gyngor.

Os oes gennych unrhyw gwestiynnau, cysylltwch â Diogelu'r Amgylchedd ar 01597 827 467.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu