Ymgynghoriad busnes
9 Ionawr 2026
Fel rhan o ymarfer ymgynghori ar-lein, mae'r cyngor sir yn gwahodd busnesau i roi sylwadau ar gyllideb refeniw 2026/2027.
Dywedodd y Cynghorydd David Thomas, Yr Aelod Cabinet ar gyfer Cyllid a Thrawsnewid Corfforaethol: "Mae'r gyllideb yn bwysig i fusnesau ledled y sir a thrwy roi cyfle i fusnesau fynegi eu barn ar-lein mae pawb yn cael yr un cyfle i roi eu sylwadau ym mha le bynnag y maen nhw wedi'u lleoli."
Estynnir gwahoddiad i'r rhai sydd â diddordeb i ymweld â gwefan y Cyngor: http://www.powys.gov.uk a chlicio'r ddolen Pwyllgorau a Chyfarfodydd y Cyngor/Agenda'r Cabinet 20 Ionawr 2026, neu ddefnyddio'r ddolen uniongyrchol isod: Cyngor Sir Powys County Council - Agenda for Cabinet on Tuesday, 20th January, 2026, 11.00 am
fydd yn mynd â chi yn syth at bapurau'r Cabinet, sy'n cynnwys holl fanylion cyllideb arfaethedig y Cyngor (ar gael o 12 Ionawr).
Dylid anfon pob ymateb i'r ymgynghoriad at y Pennaeth Cyllid, Neuadd Sir Powys, Spa Road East, Llandrindod, Powys, LD1 5LG i'r diben hwn erbyn 16 Chwefror 2026.
