Toglo gwelededd dewislen symudol

Cabinet i ystyried cynnig cyllideb gytbwys ar gyfer 2026-27

A person viewing budget charts and using a calculator

13 Ionawr 2025

A person viewing budget charts and using a calculator
Yr wythnos nesaf, bydd Cabinet Cyngor Sir Powys yn ystyried cynigion ar gyfer cyllideb gytbwys ar gyfer 2026-27, sy'n anelu at ddiogelu gwasanaethau hanfodol, cefnogi'r rhai mwyaf bregus, a buddsoddi yn nyfodol y sir, er gwaethaf pwysau ariannol parhaus.

Mae'r gyllideb ddrafft, a gyhoeddwyd heddiw, wedi'i llunio gan adborth gan breswylwyr, cynghorwyr a phartneriaid, ac mae'n adlewyrchu'r blaenoriaethau a nodwyd yn yr arolwg cyllideb ddiweddar. Os bydd y Cabinet yn cytuno, bydd y cynigion yn cael eu hargymell i'r Cyngor Llawn i'w cymeradwyo ym mis Chwefror.

Mae'r gyllideb ddrafft yn cynnig cynnydd o 4.9% yn Nhreth y Cyngor - yn is na'r hyn a ddisgwylwyd gan lawer - tra'n blaenoriaethu buddsoddiad mewn ysgolion, gofal cymdeithasol, a gwaith cynnal a chadw ffyrdd. Bydd cyllidebau dirprwyedig ysgolion yn gweld cynnydd o 5.7%, ac mae adnoddau ychwanegol sylweddol yn cael eu dyrannu ar gyfer gofal cymdeithasol oedolion a phlant, gan gynnwys y Cyflog Byw Gwirioneddol i weithwyr gofal.

Dywedodd yr Aelod Cabinet ar gyfer Cyllid a Thrawsnewid Corfforaethol, y Cynghorydd Sir David Thomas: "Mae'r gyllideb ddrafft hon yn adlewyrchu ein hymrwymiad i ddiogelu'r gwasanaethau sydd bwysicaf i'n preswylwyr, tra'n cydnabod yr heriau ariannol gwirioneddol ry'n ni'n eu hwynebu. Mae'r setliad gwell gan Lywodraeth Cymru yn cael ei groesawu, ond mae'n rhaid i ni barhau i drawsnewid sut ry'n ni'n darparu gwasanaethau a gwneud penderfyniadau anodd i sicrhau bod Powys yn parhau i fod yn wydn ac yn gynaliadwy ar gyfer y dyfodol.

Ry'n ni wedi gweithio'n galed i gyflwyno cyllideb gytbwys ar gyfer 2026-27, gan gyfyngu ar y cynnydd arfaethedig yn Nhreth y Cyngor a blaenoriaethu buddsoddiad mewn ysgolion, gofal cymdeithasol a seilwaith hanfodol. Fodd bynnag, mae'r rhagolygon tymor canolig yn parhau i fod yn heriol, a bydd angen i ni barhau â'n taith drawsnewid i ddarparu arbedion a diogelu gwasanaethau hanfodol i'n cymunedau a sicrhau Powys Gynaliadwy.

Er mwyn cydbwyso'r gyllideb, mae dros £12 miliwn o arbedion wedi'u cynllunio ar gyfer 2026-27, gan adeiladu ar y £120 miliwn a gyflawnwyd dros y degawd diwethaf. Mae'r rhain i gyd yn cyd-fynd ag egwyddorion Powys Gynaliadwy a byddant yn cael eu cyflawni drwy ailfodelu gwasanaethau, trawsnewid digidol, a gwelliannau effeithlonrwydd, gyda ffocws ar leihau'r effaith ar wasanaethau rheng flaen.

Mae ein rhaglen gyfalaf ddrafft ar gyfer 2026-31 yn manylu cyfanswm o £742 miliwn o fuddsoddiad, gan gefnogi seilwaith hanfodol, gan gynnwys ysgolion, adfywio a gweithredu ar newid yn yr hinsawdd."

Er gwaethaf y setliad gwell, mae'r Cyngor yn wynebu bwlch cyllidebol disgwyliedig o £28.8 miliwn erbyn 2030-31, hyd yn oed ar ôl cyflawni'r holl arbedion a nodwyd. Mae'r Cyngor yn parhau i alw am setliadau cyllido aml-flwyddyn a chefnogaeth bellach gan Lywodraeth Cymru i alluogi cynllunio hirdymor cynaliadwy.

Bydd y gyllideb ddrafft yn cael ei hystyried gan y Cabinet ar 20 Ionawr 2026. Os cytunir arni, bydd yn cael ei hargymell i'r Cyngor Llawn er mwyn ei chymeradwyo ym mis Chwefror.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu