Cynlluniau a ariennir gan ECO
14 Ionawr 2026
Cyhoeddwyd y cyngor gan Gyngor Sir Powys yn dilyn y newyddion bod CES yn Ne Cymru wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr yr wythnos ddiwethaf.
Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor sir: "Bydd y cyngor i breswylwyr yn dibynnu ar eu sefyllfa ar hyd taith ôl-ffitio ECO Flex ond dylent gysylltu â Cymru Gynnes ar 0800 0911786, ebost - information@warmwales.org.uk neu trwy'r wefan - Asiantau Eco Powys - Cymru Gynnes a fydd yn gallu darparu cyngor a chefnogaeth ac arweiniad.
"Bydd angen i unrhyw un sydd â gwaith wedi'i gwblhau'n rhannol gysylltu â gweinyddwyr CES neu City Energy Network a allai drefnu fod y gwaith yn cael ei gwblhau trwy un o'u cwmnïau gosod amgen. Bydd Cymru Gynnes yn cynorthwyo gyda'r broses hon lle bo hynny'n bosibl.
"Yn anffodus, bydd angen i'r rhai sydd â gwaith wedi'i gymeradwyo ond heb ei gwblhau eto gan CES ddod o hyd i osodwr amgen (oni bai bod City Energy Network eisoes wedi trefnu neu yn y broses o drefnu hyn). Fel arall, efallai y byddant yn ystyried gwneud cais newydd drwy gynllun Powys Gynnes.
"Ein cyngor i drigolion Powys bob amser fydd ystyried Cynllun Powys Cynnes - Powys Gynnes gan ei fod yn cynnig meini prawf cymhwyso is a gwell cynnyrch a gwasanaethau i breswylwyr o'i gymharu â'r holl gynlluniau eraill a ariennir gan ECO."
