Adolygiad annibynnol yn cadarnhau cydymffurfiaeth yn Ysgol Uwchradd Llanidloes
14 Ionawr 2026
Cychwynnwyd yr adolygiad yn dilyn adroddiadau bod yr ysgol yn addysgu creadaeth ac yn hyrwyddo Cristnogaeth ar draul crefyddau eraill a chredoau nad ydynt yn grefyddol. Ar ôl archwiliad trylwyr, ni chanfu'r ymarfer unrhyw dystiolaeth i gefnogi'r pryderon hyn.
Daeth yr adroddiad i'r casgliad canlynol:
- Ni chafodd creadaeth ei haddysgu mewn gwersi gwyddoniaeth.
- Nid oes tystiolaeth o efengylu nag unrhyw hyrwyddo amhriodol o Gristnogaeth.
- Mae trefniadau cyfunol yr ysgol a chyflwyno'r cwricwlwm Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg yn cydymffurfio â gofynion Llywodraeth Cymru.
Er bod yr adolygiad yn amlygu rhai meysydd ymarfer i'w hadolygu gan yr ysgol, nid oes angen unrhyw weithredu pellach gan y cyngor.
Dywedodd Dr Richard Jones, Cyfarwyddwr Addysg Cyngor Sir Powys, a Clare Bound, Cadeirydd Ffederasiwn Ysgolion Llanidloes: "Rydym yn croesawu canfyddiadau'r adolygiad annibynnol, sy'n rhoi sicrwydd bod Ysgol Uwchradd Llanidloes yn cyflawni ei rhwymedigaethau cyfreithiol ac addysgol.
"Rydym yn cydnabod bod hwn wedi bod yn gyfnod heriol i gymuned yr ysgol a diolch i'r staff am eu proffesiynoldeb drwy gydol y cyfnod. Rydym bellach yn canolbwyntio ar y dyfodol, gan gydweithio i sicrhau'r canlyniadau gorau posibl i ddysgwyr."
Ychwanegodd Daniel Owen, Pennaeth Ysgol Uwchradd Llanidloes: "Rydym yn falch bod yr adolygiad yn cadarnhau ein bod yn cydymffurfio â'r holl ganllawiau perthnasol. Mae Ysgol Uwchradd Llanidloes yn cynnig cwricwlwm eang a chytbwys ac amgylchedd bugeiliol cryf lle mae disgyblion yn teimlo'n ddiogel ac yn cael eu cefnogi.
"Byddwn yn parhau i addysgu plant ynghylch treftadaeth Gristnogol a diwylliannol gyfoethog Cymru ochr yn ochr ag ystod eang o gredoau a gwerthoedd, fel rhan o'n hymrwymiad i gynhwysiant a pharch."
