Toglo gwelededd dewislen symudol

Arweinydd yn croesawu Tour De France i Bowys

Image of Cllr Jake Berriman is pictured with Cllr Graham Breeze and Cllr Richard Church at Powis Castle, celebrating the moment that Stage 4 of the Tour De France Grand Depart is coming to Powys in 2027.

15 Ionawr 2026

Image of Cllr Jake Berriman is pictured with Cllr Graham Breeze and Cllr Richard Church at Powis Castle, celebrating the moment that Stage 4 of the Tour De France Grand Depart is coming to Powys in 2027.
Croesawyd newyddion bod y Tour De France yn dod i Bowys ym mis Gorffennaf 2027 gan Arweinydd y Cyngor Sir.

Cafodd enwi'r sir yn gartref i drydydd diwrnod (sef diwrnod olaf) Grand Départ y daith yn 2027 ei groesawu fel cyfle hanesyddol i arddangos y sir a rhoi chwistrelliad enfawr i'w heconomi.

Meddai'r Cynghorydd Jake Berriman ar ôl y cyhoeddiad swyddogol yng Nghastell Powys: "Does dim anrhydedd mwy yn y byd beicio na chynnal Grand Départ y Tour de France. Ers iddo ddechrau gadael Ffrainc yn y 1950au, mae'r Tour de France wedi dechrau dramor ar 26 achlysur, gan ymweld ag Iwerddon, yr Eidal, yr Almaen a Lloegr ar hyd y ffordd - ond dyma'r cymal cyntaf i gael ei gynnal yng Nghymru.

"Mae Powys yn gyfarwydd iawn â chynnal digwyddiadau beicio mawr ar ôl mwynhau sawl digwyddiad o gymalau Tour of Britain ynghyd â Thaith y Merched. Cynhyrchodd pob un ohonynt hwb economaidd sylweddol i'r sir, yn enwedig ei sector lletygarwch, gan ddarparu llwyfan fyd-eang i arddangos y sir fel cyrchfan gwyliau.

"Y tro diwethaf i'r grand départ fod ym Mhrydain oedd yn 2014 pan ddechreuodd yng ngogledd Swydd Efrog a rhoddodd hyn hwb o £100m i'r economi.

"Bydd départ y flwyddyn nesaf yn dechrau yng Nghastell Caeredin ar 2 Gorffennaf, gydag ail gymal rhwng Keswick a Lerpwl cyn y trydydd cymal a'r olaf "o gastell i gastell" yn dechrau yn y Trallwng ar Orffennaf 4 cyn teithio trwy grombil y sir i ddiweddglo dramatig yng Nghaerdydd.

"Bydd y départ mawreddog yn rhan o haf epig i Bowys, byddwn yn cynnal y Sioe Frenhinol, Enduro Chwe Diwrnod Rhyngwladol, yr Eisteddfod Genedlaethol a'r Grant Départ o fewn ychydig wythnosau i'w gilydd.

"Bydd haf 2027 yn mynd i lawr fel cyfle unwaith mewn oes i arddangos y sir hardd hon, ei threftadaeth a'i diwylliant a gobeithio rhoi hwb enfawr i les economaidd y sir," ychwanegodd.

Yn y llun mae'r Cynghorydd Jake Berriman (canol) gyda'r Cynghorydd Graham Breeze a'r Cynghorydd Richard Church yng Nghastell Powis, yn dathlu'r foment o gyhoeddi bod Cymal 4 Grand Depart Tour De France yn dod i Bowys yn 2027.

Llun gan PA

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu