Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Bydd llinellau ffôn yr adran Treth Cyngor ac Adfer ar gau ddydd Mercher 4 Mawrth 2026 oherwydd hyfforddiant tîm.

Cyfarpar Diogelu Personol

Amcan:

Cynyddu ymwybyddiaeth o swyddogaeth cyfarpar diogelu personol wrth leihau'r graddau y bydd haint yn lledaenu, pryd y dylid ei wisgo, a sut i'w roi amdanoch a'i dynnu'n ddiogel i leihau'r risg o halogiad.

Rhagor o wybodaeth: Llawlyfr Atal Heintiau - Tudalen 15

Pam mae cyfarpar diogelu personol yn bwysig

Mae cyfarpar diogelu personol yn gweithredu fel rhwystr i drosglwyddo defnynnau, gan amddiffyn staff a phreswylwyr rhag heintiau megis COVID-19, ffliw, ac afiechydon anadlol eraill neu afiechydon sy'n lledaenu drwy gyswllt. Mae'n hanfodol ei ddefnyddio'n gywir, gan gynnwys ei roi amdanoch a'i dynnu, er mwyn atal croes-halogiad.

Pryd y Dylid Defnyddio Cyfarpar Diogelu Personol

Dylai'r lefel a'r math o gyfarpar diogelu personol sy'n cael ei wisgo fod yn seiliedig ar asesiad risg a chanllawiau diweddaraf Llywodraeth Cymru, a dylid eu hadolygu pe byddai unrhyw haint yn cael ei chanfod yn lleoliad y cartref gofal. Ceir dolenni at y canllawiau diweddaraf yn adran gyflwyniad y llawlyfr hwn.

Dylid gwisgo menig untro a ffedog tafladwy untro os rhagwelir y bydd cyswllt â gwaed a/neu hylifau corfforol eraill, croen nad yw'n ddianaf neu bilennau mwcaidd, neu os yw hynny'n debygol; neu os oes gan y preswylydd haint a gadarnhawyd neu a amheuir. 

Pryd i wisgo menig

  • Gwaed
  • Hylifau corfforol
  • Croen nad yw'n ddianaf neu bilennau mwcaidd
  • Haint a gadarnhawyd neu a amheuir

Pryd i beidio â gwisgo menig

  • Symud preswylwyr
  • Gweini neu gynorthwyo gyda bwyd/diod
  • Darparu cysur
  • Rowndiau meddyginiaeth

Masgiau (Math llawfeddygol gwrth-hylif IIR)— Dyma pryd y dylid eu gwisgo:

    • Pan fo risg o haint anadlol (ee, COVID-19, ffliw).
    • Pan fydd yn bosibl y bydd gwaed/hylifau corfforol yn sblasio at y trwyn neu'r geg, hynny yw, risg o drosglwyddo aerosol neu ddefnynnau.

Cyfarpar Diogelu'r Llygaid (Goglau Diogelwch neu Feisor)— Dyma pryd y dylid ei wisgo:

    • Pan fo risg o drosglwyddo aerosol neu ddefnynnau i'r llygaid.
    • Pan fo gwaed/hylifau corfforol yn debygol o sblasio.
    • Yn ddelfrydol, dylid darparu cyfarpar diogelu'r llygaid sy'n dafladwy. Dylid diheintio cyfarpar diogelu'r llygaid amldro bob tro ar ôl ei ddefnyddio.

Rheolau Allweddol ar gyfer Defnyddio Cyfarpar Diogelu Personol

  • Rhaid newid eitemau untro (menig, ffedogau, masgiau) rhwng preswylwyr.
  • Hylendid dwylo cyn rhoi cyfarpar diogelu personol amdanoch, rhwng eitemau wrth ei dynnu, ac ar ôl tynnu'r holl gyfarpar diogelu personol.
  • Peidiwch â defnyddio jel alcohol ar fenig.
  • Peidiwch â gwisgo dau bâr o fenig.

Y drefn gywir ar gyfer rhoi cyfarpar diogelu personol amdanoch, a'i dynnu

Gweler hefyd boster Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU, 'Guide to donning and doffing PPE', yn yr Adran Adnoddau isod. Gellir ei arddangos mewn lleoliadau perthnasol mewn cartrefi gofal.

Rhoi Cyfarpar Diogelu Personol Amdanoch

Cam 1: Cyflawni hylendid dwylo

Cam 2: Rhoi ffedog blastig amdanoch (clymu'n ddiogel)

Cam 3: Rhoi masg llawfeddygol amdanoch (clymu'n ddiogel)

Cam 4: Gwisgo cyfarpar diogelu'r llygaid (os nodir risg)

Cam 5: Rhoi menig ansteril amdanoch

Tynnu Cyfarpar Diogelu Personol

Cam 1: Tynnu'r menig → cyflawni hylendid dwylo

Cam 2: Tynnu'r ffedog (ei phlygu tuag at i mewn, osgoi cyffwrdd â'r wyneb allanol). Ei gwaredu yn y gwastraff clinigol

Cam 3: Tynnu cyfarpar diogelu'r llygaid y tu allan i ystafell y preswylydd → cyflawni hylendid dwylo

Cam 4: Tynnu'r masg gan ddefnyddio'r strapiau (gwaelod yn gyntaf), gan osgoi cyswllt â'r tu blaen. Ei waredu yn ddiogel

Cam 5: Golchi dwylo'n drylwyr â dŵr a sebon

Defnyddio Masgiau Llawfeddygol (Masg Llawfeddygol Gwrth-hylif) yn Ddiogel

  • Eu gwisgo am sesiwn lawn (ee, rownd gyffuriau, rownd ward) oni bai eu bod yn llaith, yn ddifrodedig, neu'n halogedig.
  • Peidiwch byth â gwneud yr hyn a ganlyn:
    • Eu tynnu o dan ên neu'r trwyn.
    • Gadael iddynt hongian o un glust.
  • Peidiwch â chyffwrdd â thu blaen y masg, os byddwch yn gwneud hynny, golchwch/rhowch jel ar eich dwylo ar unwaith.
  • Os yw cydweithiwr yn cyffwrdd â'i fasg, anogwch ef yn gwrtais i olchi/rhoi jel ar ei ddwylo.

Adnoddau 
Trefn gywir ar gyfer rhoi ymlaen a thynnu i ffwrdd:
Trefn-gywir-ar-berchen-an-llethu ac-ei-dadnwyno-PPE-Mai-2025.pdf
Poster Rhoi Cyfarpar Diogelu Personol Amdanoch a'i Dynnu gan Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU - Canllaw i wisgo ac tynnu PPE: Non_AGP_Gwisgo_a_dadwis_PPE_rhybuddion cwistrell
Offeryn Archwilio PPE (ar gyfer sesiynau cynefino, archwiliadau misol, neu ymateb i ddigwyddiadau)Arolygiad-Cydymffurfio-Ar gyfer-Cartrefi-Gofal-v3.00-Tachwedd-2025.pdf
Canllaw Dewis Menig IPC:Canllaw-Dewis-Glôf-Aros-Cartrefi-Mawrth-2024.pdfFideo NHS Arfer/Datod Dillad Diogelwch:Canllaw reoli atal heintiau i staff - Gwisgo ac Tynnu - YouTube

 

Dolenni at Ganllawiau Ychwanegol:
NIPCM PPE:
1.4 Offer Diogelu PersonolCanllawiau ar Gyfarpar Diogelu Personol gan Iechyd Cyhoeddus Cymru:Pennod 2 Rhagofalon Ar sail Trosglwyddo (TBPs) - Iechyd Cyhoeddus Cymru

Rhannwch y dudalen hon