Toglo gwelededd dewislen symudol

A oes gennych gwestiwn am wasanaethau'r cyngor?

Image of County Hall

20 Ionawr 2026

Image of County Hall
Mae pobl sy'n byw, gweithio neu'n astudio ym Mhowys yn cael eu gwahodd i gyflwyno cwestiwn i gyfarfod llawn nesaf y cyngor sir ar ddydd Iau 5 Mawrth.

Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â'r sir a'r gwasanaethau a ddarperir gan y cyngor, ac os derbynnir y cwestiynau gan Gadeirydd Cyngor Sir Powys, fe fyddant yn cael eu hychwanegu at yr agenda yn y drefn y derbynnir hwy.

Mae'r cyngor yn darparu slot 20 munud ar ddechrau pob cyfarfod llawn o'r cyngor ar gyfer cwestiynau'r cyhoedd a dim ond pedwar cwestiwn dilys gaiff eu hystyried yn y drefn y cawsant eu derbyn.

Os bydd y cyngor yn derbyn mwy na phedwar cwestiwn, bydd cwestiynau dilys eraill yn cael eu gohirio i gyfarfod llawn y cyngor ym mis Gorffennaf.

I gyflwyno cwestiwn ar gyfer cyfarfod y Cyngor Llawn ym mis Mawrth, anfonwch hwy dros e-bost at publicquestions@powys.gov.uk erbyn 5pm ar ddydd Mawrth 10 Chwefror.

Gellir gweld y cyfarfod yn Neuadd y Sir, Llandrindod, sy'n cael ei fynychu gan rai cynghorwyr wyneb yn wyneb a gan eraill dros Zoom, trwy wefan y cyngor.

Mae rhagor o wybodaeth ar gyfranogiad y cyhoedd yng nghyfarfodydd y cyngor ar gael yma: Cyfrangiad y Cyhoedd yng Nghyfarfodydd y Cyngor

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu