Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Bydd llinellau ffôn yr adran Treth Cyngor ac Adfer ar gau ddydd Mercher 4 Mawrth 2026 oherwydd hyfforddiant tîm.

Iechyd y Geg mewn Oedolion Hŷn

Amcan

Codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd iechyd y geg mewn preswylwyr cartrefi gofal a darparu canllawiau i'r staff ar gynnal hylendid y geg er mwyn atal haint, cynnal maeth, a hybu llesiant cyffredinol.

Rhagor o wybodaeth: Gwasanaethau Deintyddol Cymunedol Iechyd Cyhoeddus Cymru:Gwên am byth - Iechyd Cyhoeddus Cymru

Pam mae iechyd y geg yn bwysig

  • Gall hylendid gwael y geg arwain at bydredd dannedd, clefyd y deintgig (periodontitis), heintiau y geg, a materion iechyd systemig megis niwmonia allsugno mewn oedolion hŷn.
  • Gallai preswylwyr sy'n eiddil, sydd ag amhariad gwybyddol, neu sy'n defnyddio dannedd gosod fod mewn mwy o berygl o broblemau iechyd y geg.
  • Mae cynnal iechyd y geg yn cyfrannu at faeth, cysur, urddas ac ansawdd bywyd.

Negeseuon Allweddol i Staff Cartrefi Gofal

  • Mae iechyd y geg yn hanfodol ar gyfer iechyd a llesiant cyffredinol.
  • Dylid integreiddio arferion hylendid y geg dyddiol i gynlluniau gofal.
  • Dylai staff arsylwi, dogfennu ac uwchgyfeirio unrhyw faterion iechyd y geg yn brydlon.
  • Mae cydweithredu â deintyddion a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn sicrhau bod preswylwyr yn cael gofal amserol.

Arferion Allweddol ar gyfer Cynnal Iechyd y Geg

  • Brwsio Dannedd yn Ddyddiol:
    • Brwsio dannedd ddwywaith y diwrnod gan ddefnyddio past dannedd fflworid.
    • Ar gyfer preswylwyr sydd ag amhariad gwybyddol neu gorfforol, dylai'r staff gynorthwyo neu oruchwylio'r preswylwyr sy'n brwsio eu dannedd.
  • Gofalu am Ddannedd Gosod:
    • Tynnu a glanhau dannedd gosod bob dydd gan ddefnyddio brwsh meddal a glanedydd mwyn neu lanhäwr dannedd gosod.
    • Sicrhau bod dannedd gosod yn cael eu trochi dros nos mewn dŵr neu doddiad trochi addas.
  • Gofal y Geg i Breswylwyr sy'n Ddibynnol:
    • Defnyddio brwsh dannedd meddal neu swab ewyn i'r rhai nad ydynt yn gallu goddef brwsio rheolaidd.
    • Glanhau'r deintgig, y tafod a'r gwefusau i gynnal hylendid y geg ac ysgogi cylchrediad.
  • Ystyriaethau Deietegol:
    • Cyfyngu ar fwydydd a diodydd llawn siwgr i leihau'r risg o bydredd dannedd.
    • Annog preswylwyr i yfed dŵr er mwyn cynnal hydradiad a lleihau ceg sych.

Monitro ac Asesu

  • Cynnal asesiadau iechyd y geg yn rheolaidd gan ddefnyddio offer iechyd y geg y cartref gofal.
  • Dogfennu unrhyw arwyddion o boen, gwaedu, chwydd, dannedd sy'n rhydd, neu anhawster llyncu.
  • Adrodd pryderon iechyd y geg i'r meddyg teulu, deintydd, neu dîm deintyddol cymunedol yn brydlon.

Cymorth a Hyfforddiant Proffesiynol

E-bost: Gab.Powys@wales.nhs.uk.

Adnoddau 
Poster Iechyd Cyhoeddus Cymru - icc.gig.cymru/gwasanaethau-a-thimau/iechyd-cyhoeddus-deintyddol/ffeiliau-iev-ddeintyddol/gofalu-am-y-geg/ 
Poster Iechyd Cyhoeddus Cymru - icc.gig.cymru/gwasanaethau-a-thimau/iechyd-cyhoeddus-deintyddol/ffeiliau-iev-ddeintyddol/gofalu-am-y-geg/

Cyfeiriadau a Dolenni ar gyfer Canllawiau Ychwanegol: 
Iechyd Cyhoeddus Cymru - Adnoddau Iechyd y Geg ar gyfer Cartrefi Gofal: GOV. UK - Pecyn offer iechyd deintyddol i oedolion mewn cartrefi gofal - GOV.UK 
Cymdeithas Prydain ar gyfer Anabledd ac Iechyd y Geg - Canllawiau i Staff: https://www.bsdh.org.uk/resources/ 
Canllawiau NICE - Trosolwg | Iechyd cegol i oedolion mewn cartrefi gofal | Canllawiau | NICE

Rhannwch y dudalen hon