Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Bydd llinellau ffôn yr adran Treth Cyngor ac Adfer ar gau ddydd Mercher 4 Mawrth 2026 oherwydd hyfforddiant tîm.

Gastroenteritis firysol

Amcan:

Cynyddu ymwybyddiaeth o gastroenteritis firysol (yn enwedig Norofirws) mewn lleoliadau gofal, a hyrwyddo ymarfer atal a rheoli effeithiol i ddiogelu preswylwyr, staff ac ymwelwyr.

Rhagor o wybodaeth: Gweithlyfr Atal Heintiau - Tudalen 73

Beth yw Norofirws?

  • Firws heintus iawn yw Norofirws, a'r achos mwyaf cyffredin o gastroenteritis firysol.
  • Mae'n lledaenu'n hawdd mewn amgylcheddau caeedig fel cartrefi gofal, ysbytai ac ysgolion.
  • Mae salwch fel arfer yn hunan-gyfyngol, ond gall fod yn fwy difrifol i oedolion hŷn, plant ifanc iawn, a'r rhai sydd â chyflyrau iechyd sylfaenol.

Symptomau

  • Dechrau teimlo'n gyfoglyd yn sydyn
  • Chwydu ("hyrddiol" mewn llawer o achosion).
  • Dolur rhydd.
  • Poenau yn yr abdomen.
  • Twymyn gradd isel, cur pen, poenau yn y cyhyrau.

Mae unigolion yn parhau i fod yn heintus am o leiaf 48 awr ar ôl i'r symptomau ddod i ben/dim dolur rhydd mwyach. Mewn cartref gofal mae llawer o bobl yn dal i fod yn heintus am gyfnod o72 awr ar ôl i'w symptomau ddod i ben.

Llwybrau Trosglwyddo

  • Person i berson trwy'r llwybr ysgarthol-geneuol.
  • Bwyta bwyd neu yfed dŵr halogedig.
  • Cyswllt ag arwynebau neu wrthrychau halogedig.

Atal a Rheoli

  • Hylendid dwylo: Golchwch eich dwylo gyda dŵr a sebon yn unig.

Nodyn: Ni ddylid defnyddio diheintyddion dwylo wrth ofalu am breswylydd sy'n chwydu a/neu sydd â dolur rhydd. Wrth ofalu am y preswylwyr hyn, dylid golchi dwylo bob tro gan ddefnyddio dŵr a sebon hylifol nad yw'n wrthficrobaidd.

  • Ynysu: Mewn achosion lle mae diagnosis preswylwyr wedi'u gadarnhau, ei amau ac o ran y rhai sy'n wynebu risg uchel o'i ddal a chael canlyniadau niweidiol o haint a gafwyd yn yr ysbyty, e.e., pobl imiwnoataliedig sydd wedi cael eu blaenoriaethu ar gyfer llety ystafell sengl gyda chyfleusterau ensuite.
  • Gwahardd staff: Rhaid i staff beidio â dychwelyd i'r gwaith tan 48 awr ar ôl i'r symptomau ddiflannu.
  • Glanhau amgylcheddol: Defnyddiwch gyfryngau rhyddhau clorin (e.e. 1,000 rhannau fesur miliwm y clorin sydd ar gael) i lanhau ar  ôl achosion o chŵyd / dolur rhydd ac arwynebau y mae pobl yn  cyffwrdd â nhw'n aml.
  • Rheoli golch: Golchwch lieiniau halogedig ar unwaith ar y cylch poethaf addas. Cymerwch ofal i'w drin yn ofalus gan osgoi rhyddhau'r firws i'r awyr.
  • Adrodd am frigiad o achosion: Rhaid rhoi gwybod am frigiad o achosion a amheuir (wedi'u diffinio fel 2 neu fwy o breswylwyr a/neu aelodau o staff â symptomau tebyg) mewn cartrefi gofal yn brydlon i Wasanaeth Ymateb Acíwt Cymru GyfanIechyd Cyhoeddus Cymru (AWARe).Mae hyn oherwydd bod y boblogaeth yn hŷn ac felly'n debygol o fod â mwy o gyflyrau iechyd sylfaenol, mae hyn yn golygu'u bod yn wynebu mwy o risg o salwch mwy difrifol, a'r cyfleoedd i heintiau ledaenu'n gyflym ledled y cyfleuster oherwydd natur gymunedol y lleoliad.

Os ydych chi'n amau bod gan breswylydd salwch gastroberfeddol o natur heintus: dylech wneud y canlynol:

  • Rhoi gwybod i'r person sy'n gyfrifol ar unwaith.
  • Sicrhau bod rhagofalon sy'n seiliedig ar drosglwyddo yn cael eu defnyddio.
  • Annog a chynorthwyo preswylwyr a'r rhai sy'n darparu cyswllt ystyrlon i ymarfer hylendid dwylo da.
  • Defnyddiwch y cyfarpar diogelu personol priodol (PPE) wrth gynnal gofal uniongyrchol.
  • Sicrhau casglu sbesimenau yn amserol ar gyfer preswylwyr symptomatig a allai gynnwys samplau carthion neu chŵyd.

Cyfrifoldebau Allweddol ar gyfer Lleoliadau Gofal

  • Sicrhau bod staff wedi'u hyfforddi o ran adnabod brigiadau o achosion ac adrodd amdanynt.
  • Cynnal protocolau glanhau a diheintio clir.
  • Bod â chynllun rheoli brigiadau o achosion ar waith.
  • Cyfathrebu â theuluoedd ac ymwelwyr yn ystod brigiadau o achosion i leihau'r lledaeniad.

Adnoddau 
Bwrdd Iechyd Addysgu Powys / Cyngor Sir Powys Rhestr Wirio Brigiadau o Achosion Gastroberfeddol:
Rhestr Wirio Atal a Rheoli Heintiau Achosion GI (PDF, 175 KB)
Ffeithlen Rheoli Atal Heintiau Gastroenteritis Firol:Dalen Ffeithiau Gastroenteritis Feirysol 
Poster Cartrefi Gofal Norofirws Noroffirws-hysbysfwrdd-cartref-gofal.pdf

Cyfeiriadau a dolenni canllawiau pellach: 
Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU (UKHSA) - Norofirws: canllawiau, data a dadansoddiad: Norofirws: canllawiau, data a dadansoddiad - GOV.UK 
Egwyddorion ac Argymhellion Ymarfer ar gyfer Rheoli Iechyd y Cyhoedd o ran Pathogenau Gastroberfeddol 2019: Rheoli Heintiau Gastroberfeddol 2019 
GIG - Norofirws (haint chwydu): Noroffirus (bacteria chwydu) - GIG

Rhannwch y dudalen hon