Toglo gwelededd dewislen symudol

Arweinydd yn codi pryderon difrifol wrth i CNC barhau gyda chynnig y Parc Cenedlaethol

Image of Lake Vyrnwy at dusk

23 Ionawr 2026

Image of Lake Vyrnwy at dusk
Mae Arweinydd Cyngor Sir Powys wedi mynegi siom bod Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn parhau gyda chynigion i greu parc cenedlaethol newydd yng ngogledd-ddwyrain Cymru, er gwaethaf gwrthwynebiad lleol cryf a chyson a phenderfyniad unfrydol y cyngor yn gwrthwynebu'r cynlluniau.

Mewn cyfarfod o'r Cyngor Llawn fis diwethaf (Rhagfyr), pleidleisiodd cynghorwyr yn unfrydol i wrthwynebu Parc Cenedlaethol arfaethedig Glyndŵr, a fyddai'n cynnwys ardal o ogledd-orllewin Powys gan gynnwys Llyn Efyrnwy, Llansilin a Llangedwyn.

Fodd bynnag, mae CNC wedi cyhoeddi bod ei fwrdd wedi cytuno i wneud Gorchymyn Dynodi Parc Cenedlaethol Glyndŵr, gan roi tan 15 Chwefror i bobl ymateb i'r cynnig yn ffurfiol.

Dywedodd yr Arweinydd, y Cynghorydd Jake Berriman: "Mae gwrthwynebiad y cyngor yn tynnu sylw at ein pryderon difrifol ynghylch hygyrchedd gwael, effeithiau economaidd-gymdeithasol anghymesur, a'r risgiau sylweddol y mae'r cynnig hwn yn eu creu i seilwaith lleol, argaeledd tai a datblygiad economaidd.

"Rydym hefyd wedi codi'r posibilrwydd o golli incwm cynllunio a'r baich o gostau ychwanegol a fyddai'n disgyn ar Bowys pe bai'r dynodiad yn mynd rhagddo.

"Rydym yn arbennig o bryderus nad oes gan yr ardal arfaethedig y seilwaith sydd ei angen i gefnogi'r niferoedd cynyddol o ymwelwyr y byddai statws Parc Cenedlaethol yn anochel yn ei ddenu. Rydym eisoes wedi gweld pa mor gyflym y gall ffyrdd gwledig cul a gwasanaethau lleol gael eu llethu, yn enwedig o amgylch Pistyll Rhaeadr a Llyn Efyrnwy yn ystod cyfnod Covid 19, pan gyrhaeddodd tagfeydd traffig a phwysau ymwelwyr lefelau anghynaladwy.

"Rydym yn parhau i fod yn bryderus y byddai'r dynodiad hwn yn rhoi pwysau ychwanegol ar ein cymunedau gwledig gan gynnig ychydig o fudd pendant. Bydd gwrthwynebiad y cyngor nawr yn cael ei gyflwyno'n ffurfiol fel rhan o'r broses statudol.

"Rwy'n annog trigolion, busnesau a grwpiau cymunedol yn gryf i fynegi eu barn cyn i'r ymgynghoriad ddod i ben."

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu