Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Rhybudd: Mae diwrnodau ailgylchu a chasglu gwastraff yn newid

Telerau ac amodau Dechrau'n Deg

Goruchwylio Plant 

Rhaid i blant gael eu goruchwylio drwy gydol yr holl weithgareddau. Mae rhieni neu warcheidwaid yn gwbl gyfrifol am eu plant ar bob adeg yn ystod y digwyddiad. Nid yw Dechrau'n Deg yn cymryd cyfrifoldeb am blant heb oruchwyliaeth.   

Dillad Addas  

Gofynnir i rhai sy'n cymryd rhan i wisgo neu ddod â dillad sy'n addas ar gyfer y gweithgareddau dan sylw. Gall rhai gweithgareddau gynnwys chwarae blêr neu olygu y bydd eu dillad yn fudr. Nid yw Dechrau'n Deg yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw ddifrod na staeniau i ddillad personol. 

Eiddo Personol  

Ni fydd Dechrau'n Deg yn gyfrifol am unrhyw eiddo personol neu eiddo sy'n mynd ar goll, sy'n cael ei ladrata neu ei ddifrodi yn ystod y digwyddiad. Gwnewch yn siwr bod yn cadw eich eitemau'n ddiogel bob amser.  

Parch ac Ymddygiad 

Disgwylir i bob un sy'n bresennol barchu teuluoedd eraill, aelodau o staff a darparwyr gweithgareddau yn ystod digwyddiadau. Mae amgylchedd croesawgar a chynhwysol yn gwella'r profiad i bawb. 

Iechyd a Diogelwch

Rhaid i'r holl gyfranogwyr ddilyn canllawiau Iechyd a Diogelwch a chadw at reolau'r gweithgaredd drwy'r adeg. Mae hyn yn sicrhau profiad diogel a phleserus i bawb. 

Polisi Dim Ysmygu

Er mwyn hyrwyddo amgylchedd iach, mae Dechrau'n Deg yn mabwysiadu polisi dim ysmygu llym ym mhob digwyddiad. Mae hyn yn cynnwys peidio ag ysmygu e-sigaréts yn ystod gweithgareddau. 

Hygyrchedd a Gofynion Ychwanegol

Os oes gennych unrhyw ofynion sy'n ymwneud ag anabledd, symudedd neu anghenion meddygol, trafodwch eich gofynion gydag aelod o staff cyn neu yn ystod y digwyddiad. Bydd Dechrau'n Deg yn gwneud addasiadau rhesymol lle bynnag y bo'n bosibl i sicrhau bod pawb yn cael eu cynnwys. 

Ymwadiad

I fynychu digwyddiad Dechrau'n Deg, rydych yn cytuno i'r telerau a'r amodau uchod ac yn cydnabod nad yw Dechrau'n Deg yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am eiddo personol, anafiadau nac amgylchiadau nas rhagwelwyd a allai godi yn ystod y digwyddiad.