Toglo gwelededd dewislen symudol

Dechrau'n Deg

Flying Start logo
Rhaglen i deuluoedd â phlant rhwng 0 a 4 mlwydd oed yw Dechrau'n Deg. Fe'i dargedir at godau post penodol ar draws Powys. Gwirio isod a ydych chi'n gymwys.

Beth sy'n digwydd yn sgil Dechrau'n Deg? 

Mae Dechrau'n Deg yn cynnwys pedair elfen graidd - gofal plant o safon uchel am ddim, cefnogaeth i'r teulu trwy raglenni'r Blynyddoedd Rhyfeddol, cymorth dwys gan yr Ymwelydd Iechyd, a chymorth ar gyfer datblygu iaith yn y blynyddoedd cynnar.

  • Gofal plant rhan-amser o safon uchel am ddim i blant 2-3 oed

Mae Dechrau'n Deg yn cynnig gofal plant o safon i rieni pob plentyn 2-3 blwydd oed sy'n gymwys am 2 a hanner awr y diwrnod, 5 diwrnod yr wythnos am 39 wythnos. Yn ychwanegol at hyn, dylid cael o leiaf 15 sesiwn o ddarpariaeth ar gyfer y teulu yn ystod y gwyliau ysgol.

  • Mynediad at Raglenni Rhianta

Dylid cynnig cefnogaeth rhianta ffurfiol o leiaf ar sail flynyddol i bob teulu sydd â phlentyn Dechrau'n Deg. Gall hyn fod mewn grwpiau neu ar sail un i un yn y cartref gyda chyfuniad o gefnogaeth ffurfiol ac anffurfiol gan ddibynnu ar yr angen.

  • Mwy o wasanaeth gan Ymwelwyr Iechyd

Prif swyddogaeth yr Ymwelydd Iechyd Dechrau'n Deg yw cefnogi'r teulu yn y cartref, gan asesu'r plentyn a'r teulu (o ran perygl uchel, canolig ac isel). Dylai Ymwelwyr Iechyd Dechrau'n Deg asesu'r teuluoedd hynny a nodir fel rhai perygl canolig ac uchel yn barhaus, a gwneud cyfeiriadau priodol.

  • Iaith, Lleferydd a Chyfathrebu

Dylai pob teulu o fewn ardal Dechrau'n Deg gael mynediad parhaus at grwp iaith a chwarae priodol. Yn sgil hyn, gellir mabwysiadu dull sydd wedi'i dargedu mwy ar asesu a chyfeirio pan fo tystiolaeth o angen ychwanegol.

Gwaith Allanol

Darperir ychydig o Wasanaethau Cefnogi Teuluoedd Powys mewn partneriaeth rhwng Dechrau'n Deg a Theuluoedd yn Gyntaf. Er bod teuluoedd o fewn ardaloedd Dechrau'n Deg yn cael cefnogaeth fwy arbenigol a dwys, mae hyn yn golygu y byddai teuluoedd a allai gael budd o gefnogaeth debyg, ond nad ydynt yn byw mewn ardal Dechrau'n Deg, yn gallu cael mynediad at y gwasanaethau hyn trwy'r Teuluoedd yn Gyntaf.

Ehangu Llywodraeth Cymru

Cyhoeddwyd fod Llywodraeth Cymru yn anelu at ehangu elfen ofal plant y rhaglen, allan i ardaloedd ychwanegol. Felly, tra fydd rhai teuluoedd yn canfod na fyddant yn derbyn y rhaglen gyflawn, byddant yn gallu cael mynediad at ofal plant o ansawdd uchel ac a ariennir yn un o'n lleoliadau a gymeradwywyd. Eleni, gwelwyd ehangu'r gofal plant i'r Trallwng, Llanbrynmair, Banw, Llandrindod, Hawy, Diserth, Trecoed, ac Ystradgynlais a'r ardaloedd amgylchynol, felly os ydych chi'n byw yn agos at yr ardaloedd hyn, gwiriwch eich cod post i weld a ydych chi'n gymwys. Am Gofal plant rhan-amser o safon uchel am ddim i blant 2-3 oed.

A oes gennych blentyn rhwng 0 a 3 oed 11 mis oed ac yn byw ym Mhowys, os felly, rhowch eich cod post i weld a ydych yn gymwys ar gyfer Dechrau'n Deg Powys.