Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Rhybudd: Mae diwrnodau ailgylchu a chasglu gwastraff yn newid

Gwelliannau i ganol tref Aberhonddu Cwestiynau Cyffredin

Pryd fydd y gwaith yn dechrau?

Fel rhan o'r broses dendro, rydym wedi gofyn i'r gwaith adeiladu ddechrau ym mis Mawrth 2026. Mae hyn yn amodol ar argaeledd y contractwr.

Am ba mor hir fydd y gwaith yn parhau?

Bydd hyn yn dibynnu ar amserlen waith y contractwr, ond disgwylir y bydd yn cymryd 16 wythnos ar gyfer cam un.

A yw'n digwydd mewn un cam, neu dros nifer o gamau gwahanol?

Bydd cynllun canol y dref yn cael ei gyflwyno fesul cam. Bydd cam un yn dechrau ger Eglwys y Santes Fair ac yn ymestyn i lawr i'r Gwrthglawdd.

Pwy yw'r contractwr?

Byddwn yn diweddaru newyddion am y contractwr penodedig unwaith y bydd y broses gaffael wedi'i chwblhau.

A fydda' i'n parhau i allu mynd i ganol y dref?

Bydd mynediad i gerddwyr yn cael ei gynnal, a bydd yr holl fusnesau ar agor fel arfer trwy gydol y gwaith, ond bydd cyfyngiadau ar fynediad i gerbydau. Byddwn yn cysylltu'n uniongyrchol â busnesau ynglŷn â threfniadau cyflenwi a mynediad.

A fydda' i'n gallu gyrru drwy Aberhonddu tra bod y gwaith yn digwydd?

Efallai y bydd ffyrdd ar gau dros dro. Bydd arwyddion rheoli traffig a dargyfeirio yn cael eu gosod os fydd angen.

Sut bydd cerbydau brys yn mynd drwodd, os fydd angen?

Bydd mynediad i gerbydau brys bob amser yn cael ei gynnal.

Ble alla i barcio tra bod y gwaith yn digwydd?

Dim ond peth parcio ar y stryd fydd yn cael ei effeithio yn ystod y cam hwn o'r gwaith adeiladu. Er mwyn lleihau'r aflonyddwch a chefnogi pobl sy'n ymweld â chanol y dref, bydd rhai mannau parcio 1 awr am ddim dros dro ar gael ym Maes Parcio Heol George, ger y CWTCH (hen Ganolfan Groeso), drwy gydol y gwaith. Ni fydd unrhyw fannau parcio eraill ar y stryd nac mewn meysydd parcio lleol y tu allan i'r ardal waith yn cael eu heffeithio.‑stryd fydd yn cael ei effeithio yn ystod y cam hwn o'r gwaith adeiladu. Er mwyn lleihau'r ‑awr am ddim dros dro ar gael ym Maes Parcio.

A fydd mannau parcio deiliaid bathodyn glas yn cael eu heffeithio?

Efallai na fydd rhai o'r mannau parcio anabl presennol ar gael yn ystod y gwaith adeiladu. Mae mannau parcio bathodyn glas eraill ar gael mewn meysydd parcio cyfagos ac mewn mannau eraill yng nghanol y dref.

 

A fydd y rhwystrau yn parhau i gael eu defnyddio yn y Struet yn ystod y cau arferol 12-4pm?


Bydd system bolard awtomataidd yn cael ei threialu fel rhan o'r cynllun, gyda'r nod o ddarparu mynediad mwy hyblyg i fusnesau lleol a defnyddwyr eraill os yw'n briodol.

 

Ble alla i weld y cynlluniau terfynol?

Mae cynlluniau diweddaraf ar gael i'w gweld yn Y Gaer, Heol Morgannwg, Aberhonddu.

 

Pam mae canol tref Aberhonddu yn cael ei wella?

Ein nod yw gwella cyfleusterau ar gyfer preswylwyr, busnesau ac ymwelwyr. Mae'r cynlluniau'n canolbwyntio ar flaenoriaethu cerddwyr, gwella cysylltiadau a bioamrywiaeth, a chreu mannau cyhoeddus diogel, hygyrch sy'n gwella cymeriad unigryw'r dref ar hyd y Stryd Fawr Uchaf, y Stryd Fawr Isaf, a'r Gwrthglawdd.

 

Pwy sy'n talu am y prosiect hwn?

 Llywodraeth Cymru sy'n darparu'r cyllid.

Rwy'n byw yng nghanol tref Aberhonddu, sut fydd hyn yn effeithio arnaf i?

Bydd mynediad i gerddwyr yn cael ei gynnal i bob preswylfa trwy gydol yr adeiladu. Cysylltwch â Chyngor Sir Powys os oes gennych unrhyw anghenion penodol yn transformingtowns@powys.gov.uk

Rwy'n berchen ar fusnes/ yn rhedeg busnes yng nghanol tref Aberhonddu; sut fydd hyn yn effeithio arnaf i?

Bydd mynediad i gerddwyr yn cael ei gynnal i bob busnes trwy gydol y gwaith adeiladu. Bydd y contractwyr yn cysylltu â busnesau ynglŷn â chyflenwadau yn ystod y cyfnod o gau ffyrdd. Cysylltwch a Chyngor Sir Powys os oes gennych unrhyw anghenion penodol transformingtowns@powys.gov.uk

Gyda phwy alla i siarad am fwy o wybodaeth?

Yn ystod y gwaith adeiladu, bydd swyddog cyswllt yn gweithio gyda'r contractwyr. Gallwch hefyd gysylltu â Chyngor Sir Powys yntransformingtowns@powys.gov.ukhefyd gallwch chwilio am ddiweddariadau a gwybodaeth arall ar y dudalen we hon.

A fydd trafnidiaeth gyhoeddus yn cael ei effeithio?

Bydd cyn lleied o darfu ag sy'n bosibl,  edrychwch ar amserlenni lleol a'r dudalen we hon am ddiweddariadau.

 

A yw'r safle tacsi yn cael ei effeithio?

Bydd unrhyw effaith ar y safle tacsi yn amodol ar gyswllt parhaus â'r contractwr (ar ôl ei benodi). Bydd rhagor o fanylion yn cael eu rhannu ar ôl eu cadarnhau.

 

Rwy'n seiclo i ganol y dref, a fydd stondinau beics ar gael?

Bydd, bydd stondinau beics newydd yn cael eu hymgorffori yn y gwaith adeiladu.

 

A fydd yr heneb yn cael ei heffeithio?

Na fydd,  heblaw am y bydd y ffordd yn cael ei hadleoli i ochr orllewinol yr heneb.

 

Os oes ffyrdd ar gau dros dro, pa lwybrau amgen sydd i yrwyr?

Bydd diweddariadau yn cael eu postio ar y dudalen we hon, ar y cyfryngau cymdeithasol a rheoli traffig a bydd arwyddion dargyfeirio mewn lle.

 

A fydd mynediad i unrhyw faes parcio yn cael ei effeithio?

Ni fydd mynediad i faes parcio yn cael ei effeithio i raddau helaeth; bydd diweddariadau yn cael eu darparu os oes unrhyw gyfyngiadau.

A fydd gwasanaethau casglu gwastraff yn cael eu heffeithio?

Bydd casgliadau'n parhau; bydd unrhyw newidiadau yn cael eu cyfathrebu.

 

A ellir rheoli sŵn a llwch yn ystod y gwaith?

Gellir, bydd mesurau ar waith i leihau aflonyddwch.

Beth am effaith gymunedol yn ystod gwyliau pwysig?


Bydd amserlenni gwaith yn cael eu cynllunio i leihau aflonyddwch yn ystod adegau allweddol fel penwythnos gwyliau'r Pasg.

Sut alla i gael gwybod y diweddaraf?

Ewch iwww.powys.gov.uk/brecontown am ddiweddariadau rheolaidd.

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu