Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Rhybudd: Mae diwrnodau ailgylchu a chasglu gwastraff yn newid

Annog ffermwyr i fod yn rhagofalus yn ystod y tymor ŵyna er mwyn lleihau risgiau iechyd

Lambing safety - Cym

10 Chwefror 2026

Lambing safety - Cym
Mae ffermwyr ledled Powys yn cael eu hatgoffa i ddilyn rhagofalon syml ond pwysig y tymor ŵyna hwn i amddiffyn eu hunain, eu teuluoedd, a'r gymuned ehangach rhag risgiau iechyd posibl.

Mae Cyngor Sir Powys, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys ac Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio gyda'i gilydd i godi ymwybyddiaeth - yn enwedig ymhlith menywod beichiog, menywod sydd o oedran beichiogi, pobl â systemau imiwnedd gwan, a'r rhai sy'n byw ar ffermydd neu'n ymweld â ffermydd - am heintiau a all fod yn gysylltiedig ag ŵyna.

Gall heintiau fel Tocsoplasma a Listeria gael eu trosglwyddo trwy gyswllt ag ŵyn newydd-anedig, hylifau geni, y brych, neu ddeunyddiau halogedig gan gynnwys gwellt gwely anifeiliaid, ffensys neu offer. Gall yr heintiau hyn fod yn niweidiol ac, mewn rhai achosion, gallant arwain at golli plentyn neu gymhlethdodau difrifol eraill.

Os ydych chi'n byw gyda rhywun sy'n feichiog, yn ceisio am fabi, neu sydd â system imiwnedd wan, dylech gymryd gofal ychwanegol wrth wneud gwaith fferm. Mae'r rhagofalon a argymhellir yn cynnwys:

  • Newid a golchi dillad ar 60°C neu uwch
  • Gwisgo dillad amddiffynnol priodol
  • Golchi dwylo'n drylwyr gyda sebon a dŵr ar ôl trin anifeiliaid neu offer

Dywedodd y Cynghorydd Richard Church, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddio: "Mae llawer yn ein cymuned ffermio wedi bod yn ŵyna ers blynyddoedd, ond mae'n parhau i fod yn hanfodol bod pawb yn deall y risgiau posibl i iechyd.

"Ni ellir gorbwysleisio pwysigrwydd mesurau ataliol syml - maen nhw'n chwarae rhan hanfodol wrth amddiffyn eich iechyd chi, a lles y rhai o'ch cwmpas. Cymerwch eiliad i adolygu'r canllawiau a sicrhau eich bod chi'n gwneud popeth y gallwch chi i gadw eich hun a'ch anwyliaid yn ddiogel."

Mae canllawiau pellach ar leihau risgiau a chadw'n ddiogel yn ystod ŵyna ar gael yn Cadw'n Ddiogel Yn ystod Cyfnod Ŵyna

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu