Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Rhybudd: Mae diwrnodau ailgylchu a chasglu gwastraff yn newid

Y cam cyntaf tuag at hybu gweithgynhyrchu gyda chanolfan ymchwil a pharc technoleg newydd

An artist’s impression showing what the new technology park in Newtown might look like

10 Chwefror 2026

An artist’s impression showing what the new technology park in Newtown might look like
Mae cytundeb wedi'i tharo i baratoi'r ffordd ar gyfer canolfan uwch-weithgynhyrchu o'r radd flaenafar gyfer Canolbarth Cymru, a pharc busnes, i'w hadeiladu ar gyrion y Drenewydd.

Mae Cyngor Sir Powys (CSP) yn prynu 14 hectar o dir wrth ymyl Coleg y Drenewydd gan Grŵp Colegau NPTC ar gyfer y prosiect seilwaith nodedig.

Wedi'i leoli ar Heol Llanidloes, bydd y datblygiad yn cael ei adnabod fel Parc CymruTech. Bydd yn dod â Ganolfan Uwch-Weithgynhyrchu Canolbarth Cymru ynghyd ag unedau busnes hyblyg o ansawdd uchel, gan greu canolbwynt ar gyfer arloesi, sgiliau a thwf.

Bydd yr unedau ar gael i gwmnïau sy'n awyddus i ehangu neu adleoli i Ganolbarth Cymru, gan gefnogi a chryfhau'r cyfleuster ymchwil ac arloesi cyfagos.

Bydd CSP yn gweithio gyda phartneriaid allweddol, gan gynnwys Bargen Twf Canolbarth Cymru, i sicrhau cyllid tuag at gostau cyfalaf y prosiect.

Mae hefyd yn gweithio gyda'r ymgynghorwyr BIC Innovation ar y manylebau ar gyfer y Ganolfan Uwch-Weithgynhyrchu, a Pharc TechCymru, y disgwylir iddynt gyflawni:

  • Mwy na 400 o swyddi newydd
  • Hwb o £100 miliwn i allbwn (Gwerth Ychwanegol Gros) yr ardal
  • Enillion gwerth uchel ar fuddsoddiad (cymhareb budd-cost)

Mae'r prosiect yn dibynnu ar ganiatâd cynllunio yn cael ei roi, gyda disgwyl i Asbri Planning gynnal ymgynghoriad cyn ymgeisio ar ran CSP, cyn cyflwyno cais.

"Bydd y datblygiad hwn yn cael effaith enfawr ar Ganolbarth Cymru," meddai'r Cynghorydd Glyn Preston, Aelod Cabinet CSP dros Bowys Fwy Llewyrchus. "Trwy sefydlu Dyffryn Hafren uchaf fel canolbwynt ar gyfer arloesi, gweithgynhyrchu gwerth uchel, a diwydiant cynaliadwy, credwn y byddwn yn datgloi manteision economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol hirdymor i'r rhanbarth.

"Mae'r prosiect hwn yn cefnogi'n uniongyrchol ein huchelgeisiau hirdymor ar gyfer rhoi hwb i gwmnïau gweithgynhyrchu a pheirianneg ganolig yr ardal a darparu mwy o gyflogaeth â chyflog da i bobl leol."

Mae'r cyngor a BIC Innovation wedi bod yn cysylltu â busnesau gweithgynhyrchu ledled Canolbarth Cymru (Powys a Cheredigion) i sicrhau y bydd y prosiect yn diwallu eu hanghenion, gyda chymorth Grŵp Gweithgynhyrchu Canolbarth Cymru (MWMG).

Dywedodd Ceri Stephens, Rheolwr Grŵp, MWMG: "Mae sicrhau'r safle ar gyfer Parc CymruTech yn foment nodedig i Ganolbarth Cymru - mae'n paratoi'r ffordd ar gyfer gweithgynhyrchu, arloesi a datblygu sgiliau arloesol a fydd yn creu cyfleoedd gwirioneddol i'n busnesau, ein pobl ifanc, a'n cymunedau.

"Bydd yn rhoi'r sgiliau a'r cyfleoedd sydd eu hangen ar beirianwyr a phrentisiaid ifanc i ffynnu yma yng Nghanolbarth Cymru, ac yn darparu cyfleusterau o'r radd flaenaf i helpu ein gweithgynhyrchwyr i arloesi, tyfu a chystadlu."

Y bwriad yw i'r Ganolfan Uwch-Weithgynhyrchu newydd ddarparu:

  • Offer lefel TRL6-9
  • Hyfforddiant sgiliau (prentisiaethau, DPP, allgymorth ysgolion)
  • Gofod ymchwil a datblygu, prototeipio ac arddangos
  • Cymorth technegol ac arloesi i fusnesau
  • Cyfleusterau cynadledda, cydweithredu, lletygarwch a chyfarfodydd

Disgwylir i nifer o bartneriaid fuddsoddi yn y cynllun. Mae'r prosiect yn cael ei ddatblygu yn unol â Bargen Twf Canolbarth Cymru, gyda Bwrdd Tyfu Canolbarth Cymru, sy'n atebol am y Fargen Twf, i ystyried achos busnes amlinellol ym mis Gorffennaf.

Mae Cyngor Sir Powys eisiau clywed gan gwmnïau sy'n awyddus i symud i'r Drenewydd, neu ehangu ynddo, a allai fod â diddordeb i gael lleoliad ar y Parc CymruTech.

Gallant ddefnyddio'r ffurflen hon i ddarparu eu manylion cyswllt a chrynodeb o'u hanghenion: https://powysapi.evolutive.co.uk/form/anonymousform/67d2d993b18d8d42d1a24c95?&redirecturl=

Bydd Parc CymruTech hefyd yn gartref i Academi Sgiliau Gwyrdd bwrpasol, sy'n cael ei datblygu gan Grŵp Colegau NPTC, ar lain y mae'n ei gadw wrth ymyl Coleg y Drenewydd.

Bydd yn darparu gweithdai a mannau dysgu o'r radd flaenaf yn canolbwyntio ar ynni adnewyddadwy, gwaith adeiladu sy'n carbon isel, tanwydd amgen, a thechnolegau gwyrdd sy'n esblygu.

Disgwylir iddo gefnogi hyfforddiant ar gyfer 150-200 o ddysgwyr bob blwyddyn, yn amrywio o fyfyrwyr amser llawn i brentisiaid ac uwchsgilio gweithwyr proffesiynol.

Dywedodd Mark Dacey, Prif Swyddog Gweithredol Grŵp Colegau NPTC: "Mae parc busnes amlddisgyblaethol wrth ymyl coleg yn cynnig y cyfle perffaith ar gyfer tyfu swyddi ochr yn ochr â hyfforddiant pwrpasol. Dyma gyfle gwirioneddol i gael effaith gadarnhaol ar yr economi yng Nghanolbarth Cymru, a chyfle gwirioneddol i'n pobl ifanc, a fydd yn ddiwydianwyr y dyfodol.

"Rydym yn falch iawn o fod yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o gefnogi'r cyfle hwn i'r Drenewydd a Chanolbarth Cymru."

Dylai unrhyw un sydd â chwestiynau am ddatblygiad economaidd a thwf ym Mhowys e-bostio: economicdevelopment@powys.gov.uk

LLUN: Argraff artist sy'n dangos sut olwg y gallai'r parc technoleg newydd yn y Drenewydd edrych. Llun: Pensaernïaeth Hiraeth

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu