Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Rhybudd: Mae diwrnodau ailgylchu a chasglu gwastraff yn newid

Oedolion â Cholled Golwg: Cymorth tra byddwch chi'n aros

supportLG

 

Tra bo chi'n aros...

 

Wyddoch chi ?

Mae llawer o wasanaethau ar gael i'ch helpu pan fyddwch yn colli eich golwg. Fe'ch cynghorir i gysylltu â'r rhain cyn i chi ymweld â'r Tîm Nam ar y Golwg.

 

  • Swyddog Cyswllt Clinig Llygaid (ECLO)

Llinell Gymorth RNIB: Ffôn: 03303 123 9999

Wedi'i leoli mewn clinigau llygaid mewn ysbytai lleol. Mae'n darparu cymorth ymarferol, emosiynol a gwybodaeth i bobl sy'n byw gyda chyflwr ar eu golwg, a'u teuluoedd a'u gofalwyr. Cyswllt drwy linell gymorth RNIB.

 

  • Gwasanaeth Golwg Isel / Chwyddwydrau Cymru

Gallwch hunan gyfeirio at y gwasanaeth GIG hwn yn eich optegydd lleol. Gall ddarparu chwyddwydrau, lampau bwrdd a sbectol gwrth-lewyrch yn rhad ac am ddim.

Os nad yw eich optegydd yn darparu'r gwasanaeth hwn, cysylltwch â ni a gallwn roi cyngor am wasanaeth lleol i helpu gyda golwg gwan.

 

  • Cyrsiau Byw Gyda Cholli Golwg RNIB

Ffôn: 0303 123 9999

Grwpiau gwybodaeth dros y ffôn am ddim sy'n trafod gwasanaethau, opsiynau cymorth a sefydliadau a all fod yn ddefnyddiol wrth fyw gyda cholli golwg.

 

  • Asiantaeth Gofal ac Atgyweirio

Ffôn: 01686 620760

Ebost: enquiries@crpowys.co.uk

Helpu pobl hŷn (60+) neu bobl ag anableddau i barhau i fyw'n annibynnol e.e. drwy wella goleuo / darparu rheiliau llaw.

 

  • Y Gwasanaeth Tân

Ffôn: 0800 1691234

Cysylltwch am wiriad diogelwch Diogel a Lles, yn y cartref am ddim.

 

  • Cyn-filwyr Rhyfel Sy'n Ddall

Ffôn: 0800 389 7979

Os oes gennych Dystysgrif Nam ar y Golwg (CVI) a Rhif Gwasanaeth, efallai y gallwch gael mynediad at gymorth a gwasanaethau am ddim.

 

  • Cyngor Cymru i'r Deillion

Ffôn:  0292 047 3954

Dyma'r sefydliad ymbarél ar gyfer nam ar y golwg yng Nghymru.

Gwnewch gais am eu bwletin newyddion wythnosol am wasanaethau yn lleol ac yn genedlaethol, dros y ffôn neu drwy e-bost bec@wcb-ccd.org.uk

 

  • Cyngor ar Fudd-daliadau

Gellir cael cymorth gan

Age Cymru: Ffôn: 0300 303 44 98

ac

RNIB: Ffôn: 0303 123 9999

 

Llyfrau Llafar / Papurau Newydd

  • RNIB: Ffôn: 0303 123 9999Ebost: Helpline@rnib.org.uk. Llyfrau Llafar am ddim ar USB neu gallwch lawrlwytho neu wrando drwy seinydd clyfar.

  • Llyfrgell Sain Calibre: Ffôn: 01296 432 339, Ebost: enquiries@calibre.org.uk. Llyfrgell sain ar gyfer pobl â nam ar eu golwg yn ogystal â phobl sydd ag anableddau eraill. Dim ond un waith sydd angen i chi dalu ffi i ymuno.

  • Gwasanaethau Llyfrgelloedd Powys: Cysylltwch â'ch llyfrgell leol i fenthyg llyfrau print bras, llyfrau llafar / lawrlwytho llyfrau sydd ar gael am ddim.

  • Papurau Newydd Llafar Lleol: Ffôn: 01938 553085, Ebost: powystn@gmail.com. Gwasanaeth wythnosol am ddim i bapurau newydd lleol Powys ar USB.

 

Catalogau Offer

Gellir gofyn am gatalogau am ddim oddi wrth y canlynol.  Nodwch: rydym yn eich cynghori i beidio â phrynu unrhyw chwyddwydrau na chymhorthion symudedd.

 

Cymorth Cyflwr Llygaid Penodol

 

Grwpiau cymorth lleol

Cysylltwch â PAVO, Ebost: info@pavo.org.uk, Ebost: 01597 822 191

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu