Llongyfarch Ysgol Gynradd Pontffranc ar adroddiad rhagorol gan Estyn
13 Chwefror 2026
Disgrifiwyd yr ysgol gan arolygwyr Estyn fel ysgol groesawgar a gofalgar ynghanol ei chymuned wledig, lle mae disgyblion yn tyfu'n unigolion ystyriol, hyderus sydd wedi'u paratoi'n dda ar gyfer camau nesaf eu dysg a'u bywyd.
Fel rhan o'r adroddiad, a gyhoeddwyd fis diwethaf (Ionawr), canfu arolygwyr fod bron pob disgybl yn mwynhau'r ysgol, yn ymddwyn yn barchus ac yn garedig, ac yn dangos empathi a chydweithrediad mewn gwersi ac wrth chwarae.
Canmolodd Estyn gwricwlwm uchelgeisiol a chreadigol yr ysgol, sy'n defnyddio profiadau ymarferol, go iawn a dynnir o'r ardal leol, hunaniaeth Gymreig, a'r byd ehangach i wneud dysgu yn ystyrlon. Mae'r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at gynnydd cryf o ran sgiliau llythrennedd, digidol a Chymraeg disgyblion, ochr yn ochr â dull hynod effeithiol a sefydledig o gefnogi disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol.
Nododd arolygwyr hefyd ffocws pwrpasol yr ysgol ar lesiant, gyda disgyblion yn ymgymryd â chyfrifoldebau ystyrlon, ffyrdd iach o fyw, a chyfrannu'n gadarnhaol at arferion yr ysgol - gan gryfhau eu hyder, eu hannibyniaeth a'u parodrwydd ar gyfer y dyfodol ymhellach.
Dywedodd y Cynghorydd James Gibson-Watt, Aelod Cabinet dros Bowys sy'n Dysgu: "Mae Ysgol Pontffranc wedi cyflawni rhywbeth gwirioneddol arbennig, ac mae'r adroddiad hwn gan Estyn yn cyfleu'r effaith ryfeddol y mae'r ysgol yn ei chael ar ei dysgwyr. Mae cryfder ei chymuned, y gofal a ddangosir i bob plentyn, a'r profiadau dysgu cyfoethog sydd ar gael yn amlwg yn helpu disgyblion i dyfu, ffynnu a llwyddo.
"Rwy'n arbennig o falch o weld llwyddiant yr ysgol wrth ddatblygu sgiliau llythrennedd, digidol a Chymraeg disgyblion, a'r gefnogaeth hynod effeithiol sydd ar waith i ddysgwyr ag anghenion ychwanegol. Mae hyn yn adlewyrchu ymrwymiad i roi cyfle i bob plentyn lwyddo ac i sicrhau bod ein dysgwyr ym Mhowys yn derbyn addysg a chefnogaeth o'r ansawdd uchel y maent yn ei haeddu.
"Fel cyngor, rydym yn canolbwyntio ar roi'r dysgwr wrth wraidd popeth a wnawn, ac mae Pontffranc yn enghraifft bwerus o sut y gall y weledigaeth honno ddod yn fyw. Diolch i gymuned yr ysgol gyfan am eich ymroddiad i ddarparu'r gorau i'ch disgyblion."
