Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Rhybudd: Mae diwrnodau ailgylchu a chasglu gwastraff yn newid

Pencampwyr cymunedol yn cael eu hanrhydeddu yn seremoni Gwobrau Barcud Arian

Image of Silver Kite Award recipients

18 Chwefror 2026

Image of Silver Kite Award recipients
Mae saith ar bymtheg o unigolion anhygoel a thri sefydliad wedi cael eu cydnabod am eu hymroddiad eithriadol i'w cymunedau yn y seremoni Gwobrau Barcud Arian diweddaraf.

Mewn cyflwyniad a gynhaliwyd ddydd Gwener 16 Ionawr yn Siambr y Cyngor yn Neuadd y Sir, Llandrindod, dyfarnodd Cadeirydd Cyngor Sir Powys, y Cynghorydd William Powell, Barcutiaid Arian i wirfoddolwyr cymunedol, arweinwyr ieuenctid, gweithwyr elusennol, trefnwyr digwyddiadau a gofalwyr hir eu gwasanaeth sydd wedi gwneud cyfraniad eithriadol i fywyd ym Mhowys.

Mae'r Gwobrau Barcud Arian yn anrhydeddau dinesig a gyflwynir i bobl a sefydliadau ym Mhowys sydd wedi mynd y tu hwnt i'r hyn a ddisgwylir dros eu cymunedau neu sydd wedi cyflawni rhywbeth eithriadol yn eu maes. Cyflwynir enwebiadau drwy gydol y flwyddyn gan gynghorwyr ac mae'r rhain yn cael eu dyfarnu yn ôl disgresiwn y Cadeirydd.

Dyma'r rhai a gafwyd eu cydnabod yn ddiweddar:

  • Clwb Ieuenctid y Gelli: am greu gofod diogel, ysbrydoledig sy'n cael ei redeg gan wirfoddolwyr ar gyfer dros 120 o bobl ifanc. Mae'n cynnig sesiynau wythnosol, gweithgareddau a gwibdeithiau am ddim
  • David Vaughan: am ddegawdau o wasanaeth i gymuned beicio oddi ar y ffordd Canolbarth Cymru, gan hyrwyddo digwyddiadau, meithrin beicwyr ifanc a chodi arian sylweddol tuag at achosion lleol
  • Alan Crowe: am drawsnewid Penwythnos y 40au y Trallwng yn ddigwyddiad blynyddol pwysig sy'n rhoi hwb i'r economi leol ac yn dod â hanes yn fyw i drigolion ac ymwelwyr
  • Andrew Powell: am arwain digwyddiadau cymunedol mawr fel Gŵyl Fwyd Bannau Brycheiniog a Phenwythnos Haf Crughywel, gan hyrwyddo Powys a chefnogi busnesau lleol
  • Cathy Warlow: am dros 30 mlynedd o arweinyddiaeth eithriadol o Gymorth Cymunedol Llanfair-ym-Muallt, gan arwain yr elusen i ddod yn achubiaeth gymunedol hanfodol
  • Mo Lloyd: am ei harweinyddiaeth ymroddedig yng Nghastell-paen, cynhyrchu'r cylchlythyr cymunedol, trefnu sgyrsiau, ymweliadau a gweithgareddau treftadaeth, a chefnogi gwaith amgylcheddol lleol
  • Barbara Anderson: am ddegawdau o wasanaeth i addysg ac Eglwys Sant Cynog, gan ddiogelu a rheoli canolfan gymunedol sy'n parhau i fod o fudd i drigolion Ystradgynlais yn ddyddiol
  • Liz Reynolds a Mike Hiles: am eu gwasanaeth gwirfoddol hir yn Nhref-y-clawdd, gan gefnogi grwpiau cymunedol, cyfleusterau lleol, digwyddiadau ac achosion elusennol
  • Hamish Stonebridge: am fwy na 40 mlynedd o wasanaeth i'r Lleng Brydeinig Frenhinol yn Llandrindod ac ymroddiad di-flino i wirfoddoli ledled y dref
  • Rachel Jones: am ei chefnogaeth ymroddedig i blant a theuluoedd yn yr Ystog drwy ei chyfraniad hir mewn addysg blynyddoedd cynnar a gweithgareddau cymunedol
  • Pwyllgor Carnifal Rhaeadr Gwy: am drefnu Carnifal eiconig naw diwrnod yn Rhaeadr Gwy am dros ganrif, gan ddod â'r dref at ei gilydd a rhoi hwb i falchder yn y gymuned
  • Lles Anifeiliaid Powys: am gymorth hir i anifeiliaid sy'n agored i niwed a thrigolion ar incwm isel, gan ddarparu cymorth tosturiol ac ymarferol heb geisio cydnabyddiaeth
  • Y Parchedig Canon Nia Wyn Morris: am wasanaeth eithriadol i'r Drenewydd, arwain digwyddiadau dinesig a chynnig cymorth cynhwysol i deuluoedd, trigolion sydd mewn profedigaeth a grwpiau cymunedol
  • Leigh O'Connor: am drawsnewid Neuadd Bentref Llandrinio drwy welliannau mawr, cyllid grant, digwyddiadau newydd a gwaith ymarferol diflino yn adfywio prif ganolfan gymunedol
  • Mair a Roy Wilson - am dros 30 mlynedd o fywyd maethu sydd wedi newid bywydau, gan ddarparu sefydlogrwydd, cariad ac eiriolaeth i blant bregus ledled Powys
  • David Corfield: am wasanaeth gwirfoddol rhagorol i'r Trallwng, gan wella amgylcheddau lleol, cefnogi pobl anabl, a chodi arian mawr drwy ddigwyddiadau cymunedol
  • Mo Hand a June Derrick: am ymroddiad eithriadol fel Gofalwyr Cysylltu Bywydau, gan ddarparu cymorth sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn sy'n galluogi oedolion sy'n agored i niwed i fyw'n fwy annibynnol a hyderus

 "Mae'n anrhydedd mawr cydnabod yr unigolion a'r grwpiau rhyfeddol hyn," meddai'r Cynghorydd Powell.

"Mae pob un yn ymgorffori'r gorau o Bowys trwy eu caredigrwydd, eu hymroddiad a'u gwasanaeth. Mae eu gweithredoedd yn cryfhau ein cymunedau, yn cyfoethogi bywydau pobl ac yn adlewyrchu gwir ysbryd y Wobr Barcud Arian. Llongyfarchiadau a diolch o galon i bob un sydd wedi derbyn gwobr."

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu