Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Rhybudd: Mae diwrnodau ailgylchu a chasglu gwastraff yn newid

Tenantiaid Powys yn cael eu hannog i rannu eu lleisiau mewn arolwg rhentu preifat newydd

Image of a model house, keys and a piece of paper

25 Chwefror 2026

Image of a model house, keys and a piece of paper
Mae tenantiaid tai preifat o bob cwr o Bowys yn cael eu gwahodd gan y cyngor sir i rannu eu profiadau o rentu a helpu i lunio sut y gallai sector rhentu preifat y sir weithio'n well iddyn nhw.

Mae Cyngor Sir Powys eisiau deall yn well sut beth yw bywyd i denantiaid preifat a pha mor dda y mae'r sector yn gweithio iddyn nhw o ddydd i ddydd. Mae wedi lansio arolwg i roi llais cryfach i denantiaid preifat ac i archwilio a oes diddordeb mewn creu Fforwm Tenantiaid Preifat ledled y sir a fyddai'n sicrhau bod eu barn yn dylanwadu'n uniongyrchol ar bolisi tai yn y dyfodol.

Mae bron i 23,000 o bobl ym Mhowys yn byw mewn llety rhent preifat ar hyn o bryd, sy'n cynrychioli tua 10,760 o gartrefi ledled y sir. Ond oherwydd bod tenantiaid wedi'u gwasgaru ar draws llawer o gymunedau ac yn rhentu gan nifer fawr o landlordiaid bach yn bennaf, gall fod yn anodd clywed eu profiadau a'u pryderon ar y cyd.

Mae'r arolwg yn gofyn i denantiaid rannu barn ar addasrwydd a chyflwr eu cartref, cyfathrebu â landlordiaid neu asiantau gosod, fforddiadwyedd, ac unrhyw rwystrau sy'n ei gwneud hi'n anodd dod o hyd i lety addas neu symud iddo. Anogir cyn-denantiaid ac eraill sydd â phrofiad o'r sector i gymryd rhan hefyd.

Dywedodd y Cynghorydd Matthew Dorrance, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Bowys Decach: "Rydyn ni eisiau deall pa mor dda y mae'r sector rhentu preifat yn gweithio i denantiaid ym Mhowys. Mae eich llais yn wirioneddol bwysig. Drwy rannu eich profiadau, byddwch yn ein helpu i greu darlun cliriach o'r problemau y mae pobl yn eu hwynebu o ddydd i ddydd - nid mewn cyfnodau o argyfwng yn unig."

Mae'r ymrwymiad i sefydlu Fforwm Tenantiaid Preifat yn rhan o Gynllun Cydraddoldeb Corfforaethol a Strategol y cyngor 2023-2027. Byddai'r fforwm yn rhoi ffordd gryfach a mwy strwythuredig i denantiaid ddylanwadu ar strategaeth dai ehangach y cyngor a chodi materion sydd bwysicaf iddyn nhw. Bydd yr arolwg yn helpu'r cyngor i ddeall a yw tenantiaid eisiau fforwm, ac os felly, pa ffurf y dylai ei chymryd - boed ar-lein, yn bersonol, drwy arolygon barn, cyfarfodydd neu ddulliau eraill.

Ychwanegodd y Cynghorydd Dorrance: "Dyma gyfle i denantiaid helpu i ddylunio model sy'n gweithio iddyn nhw. P'un a ydych chi'n cymryd rhan yn y fforwm neu'n llenwi'r arolwg yn unig, bydd eich barn yn arwain sut y byddwn ni'n symud hyn ymlaen."

Mae'r arolwg yn cymryd llai na 10 munud i'w gwblhau ac mae ar agor i'r canlynol:

  • tenantiaid preifat presennol
  • pobl sydd wedi rhentu'n breifat yn y gorffennol
  • eraill sydd â phrofiad o'r sector rhentu preifat.

Dim ond gan y rhai a allai fod eisiau bod yn rhan o lunio'r fforwm y gofynnir am fanylion cyswllt.

I gael dweud eich dweud a helpu i lunio dyfodol rhentu preifat ym Mhowys, ewch i https://www.dweudeichdweudpowys.cymru/arolwg-tenantiaid-preifat

Y dyddiad cau yw 5 Ebrill 2026.

Am gwestiynau am yr arolwg, cysylltwch â'r Gwasanaeth Tai yn housing@powys.gov.uk neu ffoniwch 01597 827 464.