Cyllideb wedi'i chymeradwyo i ddiogelu gwasanaethau hanfodol a chefnogi preswylwyr Powys
26 Chwefror 2026
Wrth wraidd y gyllideb mae ymrwymiadau i gadw cynnydd yn Nhreth y Cyngor i'r lleiafswm, cynyddu buddsoddiad mewn addysg, a darparu cyllid ychwanegol i fynd i'r afael â digartrefedd.
Mae'r gyllideb yn cynnwys cynnydd o 4.9% yn Nhreth y Cyngor, yn is nag y disgwylir gan lawer yn yr hinsawdd ariannol bresennol. Bydd y cynnydd hwn yn helpu'r cyngor i reoli pwysau cost sylweddol wrth gyfyngu'r effaith ar breswylwyr cyn belled â phosibl.
Bydd ysgolion ledled Powys yn gweld cynnydd o 5.7% mewn cyllidebau dirprwyedig, gan ddarparu £5.56m ychwanegol i dalu costau cynyddol a chefnogi gwella ysgolion. Bydd buddsoddiad ychwanegol o £1.76m yn cefnogi gwasanaethau addysg ehangach, gan adlewyrchu blaenoriaeth y cyngor i wella canlyniadau i ddysgwyr.
Mae'r galw am gymorth tai, yn enwedig llety dros dro, yn parhau i godi'n sydyn.
Er mwyn ymateb i hyn, mae'r cyngor wedi dyrannu cyllid ychwanegol o £499,000 i gryfhau gwasanaethau digartrefedd a sicrhau bod aelwydydd mewn argyfwng yn derbyn cymorth amserol a phriodol.
Er mwyn cefnogi'r rhai yr effeithir arnynt fwyaf gan bwysau ariannol, mae'r cyngor hefyd wedi ychwanegu £600,000 at y Cynllun Gostyngiadau yn Nhreth y Cyngor, gan helpu aelwydydd incwm isel i reoli eu biliau Treth y Cyngor tra bod y cyngor yn parhau i ddiogelu gwasanaethau rheng flaen hanfodol.
Mae'r buddsoddiad ychwanegol hwn ochr yn ochr â chyllideb ehangach y Cynllun Gostyngiadau yn Nhreth y Cyngor o fwy na £13m, sy'n darparu cymorth hanfodol i breswylwyr ledled y sir.
Gyda dros 53% o aelwydydd Powys yn derbyn rhyw fath o gymorth - boed hynny drwy ostyngiadau, eithriadau neu Gynllun Gostyngiadau yn Nhreth y Cyngor - nid yw mwy na hanner yr aelwydydd yn y sir yn talu swm llawn Treth y Cyngor, sy'n adlewyrchu ymrwymiad parhaus y cyngor i gefnogi'r rhai sy'n wynebu pwysau ariannol.
Er mwyn cydbwyso'r gyllideb, mae'r cyngor wedi nodi £12m mewn arbedion drwy ailfodelu gwasanaethau, trawsnewid digidol, cynhyrchu incwm a mesurau effeithlonrwydd. Mae'r rhain wedi'u cynllunio i leihau'r effaith ar wasanaethau rheng flaen, gyda ffocws ar amddiffyn y rhai sy'n mwyaf agored i niwed.
Dywedodd y Cynghorydd David Thomas, yr Aelod Cabinet ar gyfer Cyllid a Thrawsnewid Corfforaethol: "Mae'r gyllideb hon yn adlewyrchu ein hymrwymiad i ddiogelu'r gwasanaethau sy'n bwysicaf i'n preswylwyr, tra'n cydnabod y pwysau ariannol sylweddol sy'n wynebu'r cyngor. Trwy gadw'r cynnydd yn Nhreth y Cyngor mor isel â phosibl a buddsoddi mewn addysg, gofal cymdeithasol a chymorth tai, rydym yn helpu i adeiladu Powys gryfach, decach a gwyrddach i bawb.
"Mae'r setliad gwell gan Lywodraeth Cymru yn cael ei groesawu, ond nid yw'n cwmpasu graddfa lawn y pwysau rydyn ni'n eu hwynebu. Mae darparu Powys Gynaliadwy yn golygu parhau i drawsnewid sut rydym yn gweithio, darparu gwasanaethau'n fwy effeithlon, a chanolbwyntio ein hadnoddau lle mae eu hangen fwyaf fel y gallwn greu dyfodol mwy gwydn a chynaliadwy i'r sir."
