Gwahodd datblygwyr i ddigwyddiad ymgysylltu wrth i'r cyngor chwilio am gartrefi parod i ddiwallu anghenion tai Powys
26 Chwefror 2026
Fel rhan o'i ymrwymiad i fynd i'r afael â'r argyfwng tai, mae Cyngor Sir Powys yn edrych i brynu eiddo parod, fforddiadwy sy'n bodloni Gofynion Dylunio Cyngor Sir Powys a Llywodraeth Cymru - cartrefi sydd wedi'u cwblhau'n llawn ac sy'n barod i bobl symud i mewn iddynt heb waith adeiladu nac adnewyddu pellach.
Mae'r cyngor eisoes wedi prynu 11 eiddo parod - saith yn Llanigon a phedwar yn Ystradgynlais - a bydd 16 arall yn cael eu prynu ym Mhenybont pan fyddant wedi eu cwblhau yn ddiweddarach eleni.
Er mwyn cefnogi'r gwaith hwn, mae'r cyngor wedi trefnu digwyddiad ymgysylltu i ddatblygwyr tai a gynhelir ddydd Mawrth, 24ain o Fawrth yng Nghanolfan Chwaraeon Llandrindod rhwng 9yb ac 1yp.
Gall datblygwyr gwrdd â Gwasanaeth Tai y cyngor, trafod cyfleoedd, a dysgu mwy am y math o gynlluniau y mae'r cyngor yn dymuno eu cyflwyno.
Anogir datblygwyr sydd â chyfleoedd addas hefyd i gysylltu â'r cyngor yn uniongyrchol trwy ebostio affordable.housing@powys.gov.uk
Dywedodd y Cynghorydd Matthew Dorrance, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Bowys Tecach: "Rydym yn gwybod bod yr angen am dai fforddiadwy ym Mhowys yn cynyddu, ac rydym wedi ymrwymo i wneud popeth o fewn ein gallu i ddiwallu'r angen hwnnw.
"Trwy weithio mewn partneriaeth â datblygwyr, gallwn ddarparu cartrefi o ansawdd uchel y gall pobl eu fforddio a helpu i adeiladu cymunedau cryfach, tecach ledled y sir.
"Os ydych chi'n ddatblygwr gydag eiddo parod neu gyfleoedd ar y gweill, hoffem glywed gennych - ac rydym yn eich annog i ymuno â ni yn ein digwyddiad ymgysylltu. Gyda'n gilydd, gallwn wneud gwahaniaeth go iawn."
