Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Bydd llinellau ffôn Treth y Cyngor a Dyfarniadau (budd-daliadau) ar gau ddydd Gwener 13 Mawrth 2026 oherwydd diweddariad i'r system.

Strategaeth Economaidd TYFU Powys - Ydych chi wedi cael dweud eich dweud?

Four plants growing on top of varying piles of coins to show economic growth

13 Mawrth 2026

Mae'r cyngor sir wedi dweud bod dal i fod amser i bobl Powys i helpu i siapio Strategaeth Economaidd hirdymor newydd ar gyfer Powys.

Mae'r strategaeth ddrafft, sy'n nodi gweledigaeth ar gyfer tyfu economi leol gryfach, decach a gwyrddach hyd at 2040, yn canolbwyntio ar saith sector twf allweddol, gan gynnwys gweithgynhyrchu uwch, ynni, economïau gwledig a sylfaenol, twristiaeth a digwyddiadau, a datblygu sgiliau.

Mae hefyd yn rhoi pwyslais cryf ar gynaliadwyedd, gwytnwch, a chreu cyfleoedd â thâl gwell i bobl sy'n byw ac yn gweithio ym Mhowys.

Meddai'r Cynghorydd Glyn Preston, Aelod Cabinet dros Bowys Fwy Ffyniannus: "Mae'r strategaeth hon yn nodi gweledigaeth uchelgeisiol ond ymarferol ar gyfer sut rydym yn tyfu economi Powys mewn ffordd sy'n gweithio i'n cymunedau, ein busnesau a'n hamgylchedd.

"Rydym am i hyn gael ei siapio gan bobl Powys, a dyna pam mae'r ymgysylltiad hwn mor bwysig. P'un a ydych chi'n breswylydd, perchennog busnes, neu'n gynrychiolydd cymunedol, rwy'n eich annog i gymryd rhan, a'n helpu i siapio dyfodol ein sir."

Sut i gymryd rhan

Y dyddiad cau ar gyfer ymatebion yw dydd Mercher 25ainMawrth.

Bydd yr holl adborth a gesglir rhyngddynt yn cael ei ddadansoddi a'i ddefnyddio i fireinio'r strategaeth cyn iddi gael ei chwblhau a'i chyhoeddi.

Rhannwch y dudalen hon