Toglo gwelededd dewislen symudol

Helpu pobl ifanc trwy brofedigaeth

Mother and chid sat on a sofa reading a book together

18 Mawrth 2026

Mother and chid sat on a sofa reading a book together
Mae casgliad o lyfrau profedigaeth i blant a phobl ifanc ar gael i'w benthyg trwy lyfrgelloedd ledled y sir, meddai'r cyngor sir.

Mae'r teitlau a ddewiswyd yn ofalus wedi'u cynllunio i helpu plant a phobl ifanc i ddeall galar a chael cysur yn ystod cyfnodau anodd.

Wedi'u hariannu gan Lywodraeth Cymru, mae'r casgliadau yn darparu cymorth tyner, priodol i oedran ar gyfer y rhai hynny sy'n gweithio'u ffordd trwy alar a cholled.

Cedwir pedair set lawn o'r llyfrau yn Y Lanfa (Y Trallwng), y Drenewydd, Llandrindod a'r Gaer (Aberhonddu), ond mae'r llyfrau ar gael i'w benthyg drwy unrhyw lyfrgell ym Mhowys.

Dywedodd y Cynghorydd Sandra Davies, Aelod Cabinet Cenedlaethau'r Dyfodol: "Gall galar deimlo'n llethol i blant, ac mae cael yr offer cywir i'w helpu i wneud synnwyr o'u teimladau yn hynod o bwysig. Mae'r llyfrau hyn yn cynnig cefnogaeth dyner, hygyrch i deuluoedd, ac rydym am wneud yn siŵr bod pobl yn gwybod eu bod yno i'w defnyddio pryd bynnag y mae eu hangen."

Dywedodd y Cynghorydd Raiff Devlin, Aelod Cabinet dros Gwsmeriaid, Gwasanaethau Digidol a Chymunedol: "Mae ein llyfrgelloedd yn chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi lles cymunedau ledled Powys. Rydym yn annog rhieni, gofalwyr, ysgolion a gweithwyr proffesiynol i wneud defnydd llawn o'r casgliad hwn. Mae'r llyfrau ar gael, yn rhad ac am ddim i'w benthyg, ac mae ein staff bob amser wrth law i'ch helpu i ddod o hyd i'r hyn sydd ei angen arnoch."

Gellir gweld rhestr lawn o'r teitlau sydd ar gael, ynghyd â rhagor o wybodaeth am wasanaethau cymorth profedigaeth, trwy sganio'r cod QR ar bosteri mewn llyfrgelloedd neu drwy fynd i: https://cy.powys.gov.uk/article/14340/Cymorth-profedigaeth

Gellir hefyd bori trwy lyfrau a'u rhoi ar gadw trwy gatalog arlein y llyfrgell: https://powys.spydus.co.uk/cgi-bin/spydus.exe/MSGTRN/WEL_OPAC/HOME/

Mae staff y llyfrgell ar gael i gynnig arweiniad a helpu teuluoedd i ddewis yr adnoddau mwyaf addas.

Rhannwch y dudalen hon