Toglo gwelededd dewislen symudol

Bargen Twf Canolbarth Cymru yn sicrhau cyllid pellach i gefnogi cynnydd rhanbarthol

Image of Growing Mid Wales logo

19 Mawrth 2026

Image of Growing Mid Wales logo
Mae Tyfu Canolbarth Cymru wedi croesawu rhyddhau cyfran bellach o gyllid, £11.857m, gan Lywodraethau'r DU a Chymru drwy Fargen Twf Canolbarth Cymru — gan atgyfnerthu eu hymrwymiad parhaus i'r rhanbarth a chefnogi cynnydd wrth i brosiectau symud drwy'r camau datblygu tuag at gyflawni.

Mae'r gyfran ddiweddaraf o gyllid y Fargen Twf yn adlewyrchu buddsoddiad ar y cyd parhaus a hyder gan y ddwy lywodraeth ac yn nodi cam pwysig ymlaen wrth i'r rhaglen barhau i adeiladu momentwm. Mae nifer o brosiectau ar draws Canolbarth Cymru yn symud ymlaen drwy ddatblygu achosion busnes a phrosesau cymeradwyo, gan symud y Fargen Twf yn nes at gyflawni ar lawr gwlad.

Dywedodd y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion, a'r Cynghorydd Jake Berriman, Arweinydd Cyngor Sir Powys, Cyd-gadeiryddion Bwrdd Tyfu Canolbarth Cymru: "Mae'r gyfran ddiweddaraf hon o gyllid yn dangos y momentwm parhaus y tu ôl i Fargen Twf Canolbarth Cymru, gyda buddsoddiad yn cefnogi prosiectau wrth iddynt symud yn nes at gyflawni.

Mae'r Fargen Twf yn canolbwyntio ar greu cyfleoedd economaidd hirdymor i'r rhanbarth — gan gefnogi swyddi, gwella seilwaith a galluogi twf cynaliadwy. Mae'r cyllid pellach hwn yn atgyfnerthu'r ymrwymiad ar y cyd gan y ddwy lywodraeth ac yn rhoi hyder wrth i brosiectau barhau i symud drwy'r camau datblygu tuag at weithredu."

Dywedodd Anna McMorrin, Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol yn Swyddfa Cymru: "Mae buddsoddiad parhaus Llywodraeth y DU drwy Fargen Twf Canolbarth Cymru yn tanlinellu ein hymrwymiad i gefnogi twf economaidd ar draws y rhanbarth. Mae'r gyfran ychwanegol hon o gyllid yn darparu hyder a sefydlogrwydd wrth i brosiectau symud tuag at gyflawni, gan helpu i sicrhau y gall busnesau a chymunedau elwa ar seilwaith gwell, cynhyrchiant uwch a chyfleoedd newydd."

Dywedodd Rebecca Evans, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio yn Llywodraeth Cymru: "Mae'r gyfran ddiweddaraf hon o gyllid y Fargen Twf yn dangos cryfder ein gwaith partneriaeth a'n hymrwymiad ar y cyd i Ganolbarth Cymru. Wrth i brosiectau symud yn nes at gyflawni, mae'r buddsoddiad hwn yn helpu i gynnal momentwm ac yn cefnogi datblygiad seilwaith o ansawdd uchel a fydd yn galluogi twf cynaliadwy a chynhwysol ar draws y rhanbarth."

Mae Bargen Twf Canolbarth Cymru yn rhan o weledigaeth ehangach Tyfu Canolbarth Cymru i ysgogi twf economaidd cynaliadwy ar draws y rhanbarth. Gyda chefnogaeth ymrwymiad cyfun o £110m gan Lywodraethau'r DU a Chymru, nod y Fargen yw denu buddsoddiad cyhoeddus a phreifat pellach o dros £300 miliwn, gan greu swyddi hirdymor a chynyddu cynhyrchiant ar draws Canolbarth Cymru.

Wrth i'r rhaglen barhau i symud ymlaen, bydd diweddariadau pellach yn cael eu rhannu wrth i brosiectau symud drwy'r broses gymeradwyo ac i gyflawni.

Rhannwch y dudalen hon