Buddsoddiad o £2.5m i fynd i'r afael â thyllau yn y ffyrdd ym Mhowys
24 March 2026
Mae'r cyllid yn cyrraedd ar adeg dyngedfennol i rwydwaith 5,500km Powys, sy'n parhau i wynebu pwysau cynyddol gan dywydd garw, tanfuddsoddi hanesyddol, costau deunyddiau sy'n codi'n gyson a phroblemau draenio sydd heb eu datrys. Yn gynharach eleni, cymerodd y cyngor gamau pendant trwy ddyrannu £1.2 miliwn ychwanegol mewn cyllid refeniw ar gyfer 2025/26 i ailgychwyn gwaith draenio cylchol hanfodol.
Ers dechrau'r flwyddyn ariannol, mae timau Priffyrdd Powys eisoes wedi cyflawni cynnydd sylweddol, gan gynnwys:
- 149,508 metr o ffosydd wedi'u hagor a'u clirio i wella draenio
- Torrwyd 152,593 metr o ochrau ffyrdd i adfer lled llawn y gerbytffordd
- 9,457 o gil-ffosydd wedi'u hadfer i helpu dŵr i ddraenio'n ddiogel oddi ar y ffordd
- 8,853 o gylfatiau wedi'u gwagio, eu harchwilio a'u hatgyweirio lle bo angen
Mae'r gwaith cynnar hwn eisoes wedi gwella perfformiad draenio, cynyddu gwytnwch rhwydwaith a lleihau'r risg o ddirywiad sy'n gysylltiedig â dŵr.
Bydd y dyraniad newydd o £2.5m yn galluogi'r cyngor i gynyddu gwaith cynnal a chadw strwythurol, gan gynnwys prynu peiriannau arbenigol i dorri, tocio a glanhau diffygion ar wyneb y ffordd yn effeithlon, gan alluogi atgyweiriadau ffyrdd mwy gwydn.
Dywedodd y Cynghorydd Jake Berriman, Arweinydd Cyngor Sir Powys: "Mae'r buddsoddiad hwn yn gam pendant ymlaen i Bowys. Mae ein trigolion yn disgwyl ac yn haeddu gwelliannau gweladwy i'r rhwydwaith ffyrdd, ac mae'r cyllid hwn yn ein galluogi i gyflymu'r gwaith sy'n digwydd ar ddraenio, ailwynebu a gwneud gwaith strwythurol o gyweirio'r ffyrdd.
"Trwy gyfuno peiriannau modern gyda rhaglen gyfalaf gryfach, gallwn ddarparu atgyweiriadau sy'n para'n hirach, cynnig gwell gwerth am arian, a gwella'r profiad dyddiol i gymunedau ledled Powys."
Ychwanegodd y Cynghorydd Jackie Charlton, Aelod Cabinet dros Bowys Gwyrddach: "Mae gwella ein ffyrdd yn rhan hanfodol o adeiladu sir fwy diogel, gwyrddach a chynaliadwy. Mae gwaith cyweirio, ailwynebu a draenio effeithiol o safon uchel yn lleihau effeithiau carbon trwy dorri gwaith atgyweirio sy'n digwydd dro ar ôl tro a gwneud gwaith cynnal a chadw yn fwy effeithlon.
"Mae'r buddsoddiad hwn yn ein galluogi i sefydlu dulliau atgyweirio modern, sy'n ystyried yr amgylchedd a gwella gwytnwch ein rhwydwaith 5,500km am flynyddoedd i ddod."
Drwy wella llwybrau trafnidiaeth allweddol a lleihau atgyweiriadau sy'n digwydd tro ar ôl tro, bydd y buddsoddiad hwn yn cryfhau cysylltedd gwledig ac yn darparu rhwydwaith ffyrdd mwy diogel, mwy dibynadwy a chynaliadwy, gan gefnogi uchelgais y cyngor ar gyfer Powys gryfach, tecach a gwyrddach.
