Hysbysiad O Etholiad, Etholiad Senedd Cymru, Etholaeth Brycheiniog Tawe Nedd
- Caiff etholiad ei gynnal ar gyfer Aelodau i wasanaethu yn y Senedd ar gyfer etholaeth Brycheiniog Tawe Nedd.
- Gellir cael papurau enwebu gan swyddfa'r Swyddog Canlyniadau'r Etholaeth, Neuadd y Sir, Llandrindod, LD1 5LG, neu'n electronig drwy electoral.services@powys.gov.uk.
- Mae'n rhaid cyflwyno papurau enwebu i'r Swyddog Canlyniadau yn Neuadd y Sir, Llandrindod, LD1 5LG rhwng 9am a 4pm ar unrhyw ddiwrnod gwaith o ddyddiad cyhoeddi'r hysbysiad hwn ond dim hwyrach na 4pm ar 9 Ebrill 2026 neu'n electronig yn unol â'r trefniadau a nodir yn y datganiad trosglwyddiad electronig isod ond heb fod yn hwyrach na 4pm ar 9 Ebrill 2026.
- Gellir talu'r ernes o £500 fesul ymgeisydd unigol, neu'r ernes o £500 am yr ymgeisydd cyntaf ar restr plaid, a £200 am bob un o'r pum ymgeisydd nesaf ar y rhestr plaid. Gellir talu un ai gydag arian parod, drafft banc (banciau'n gweithredu o fewn y Deyrnas Unedig yn unig) neu drwy drosglwyddiad banc uniongyrchol.
- Os ymleddir yr etholiad, cynhelir y bleidlais ar ddydd Iau, 7 Mai 2026.
- Mae'n rhaid i geisiadau i gael eu hychwanegu i'r Gofrestr o Bleidleiswyr er mwyn pleidleisio yn yr etholiad hwn gyrraedd y Swyddog Cofrestru Etholiadol (fel y dangosir isod) erbyn 20 Ebrill 2026. Gellir cyflwyno cais ar-lein: www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio.
- Mae'n rhaid i geisiadau, newidiadau neu achosion o ganslo pleidleisiau post gyrraedd y Swyddog Cofrestru Etholiadol (fel y dangosir isod) erbyn 5pm ar 21 Ebrill 2026.
- Mae'n rhaid i geisiadau i bleidleisio drwy ddirprwy gyrraedd y Swyddog Cofrestru Etholiadol (fel y dangosir isod) erbyn 5pm ar 28 Ebrill 2026.
Mae'n rhaid i geisiadau i bleidleisio drwy ddirprwy mewn argyfwng yn yr etholiad hwn ar sail anallu corfforol neu am resymau gwaith / gwasanaeth gyrraedd y Swyddog Cofrestru Etholiadol (fel y dangosir isod) erbyn 5pm ddydd Iau, 7 Mai 2026. Mae'n rhaid bod yr analluedd corfforol wedi digwydd ar ôl 5pm 28 Ebrill 2026. I wneud cais ar sail gwaith / gwasanaeth mae'n rhaid bod y person wedi dod yn ymwybodol na all fynd i'r orsaf bleidleisio'n bersonol ar ôl 5pm 28 Ebrill 2026. - Rhaid i bapurau enwebu a gyflwynir yn electronig cael eu cyflwyno yn unol â'r trefniadau a nodir yn y datganiad hwn.
Datganiad trosglwyddiad electronig
- Gwiriadau anffurfiol - trwy e-bost i nominations@powys.gov.uk - nodwch 'GWIRIAD ANFFURFIOL - SENEDD-BTN-26' yn y pennawd pwnc.
- Cyflwyno enwebiadau - trwy e-bost i nominations@powys.gov.uk - nodwch 'CYFLWYNIAD FFURFIOL - SENEDD-BTN-26' yn y pennawd pwnc.
- Rhaid anfon eich papur enwebu fel atodiad, PDF neu ddogfen Word.
- Cofiwch osgoi anfon mwy nag un atodiad mewn e-bost, ac yn lle hynny rhowch yr holl bapurau enwebu mewn un ddogfen gyfan, er mwyn cadw maint y ffeil yn isel.
- Anfonwch yr holl bapurau enwebu mewn un neges e-bost fel bod y Swyddog Canlyniadau'n derbyn yr holl elfennau.
Bellach, gellir defnyddio llofnodion electronig yn lle llofnodion inc gwlyb wrth gyflwyno papurau enwebu mewn ffurf electronig. (e.e. llofnodion yr ymgeisydd a llofnodion tystion).
- Sylwer: Cyfrifoldeb y Swyddog Enwebu ar gyfer plaid neu ymgeiswyr unigol fel y bo'n briodol yw sicrhau bod y Swyddog Canlyniadau Etholaethol yn derbyn ffurflenni enwebu yn y ffordd gywir erbyn y dyddiadau cau gofynnol. (efallai na fydd papurau enwebu a anfonir at unrhyw gyfeiriadau e-bost eraill y Cyngor yn cael eu hystyried yn ddilys).
- Nid yw derbynneb darllen electronig gan y Swyddog Canlyniadau Etholaethol yn gadarnhad bod yr enwebiad yn ddilys. Bydd y Swyddog Canlyniadau Etholaethol yn anfon hysbysiad o'u penderfyniad ynghylch a yw enwebiad yn ddilys ai peidio.
Os oes angen unrhyw gymorth arnoch gyda chyflwyno enwebiadau yn electronig, ffoniwch 01597 826202.
Swyddog Cofrestru Etholiadol ar gyfer y Sir neu Bwrdeistref Sir
Powys: Gwasanaethau Etholiadol, Neuadd y Sir, Llandrindod, LD1 5LG 01597 826202
Castell-Nedd Port Talbot: Gwasanaethau Etholiadol, Canolfan y Ddinas, Port Talbot, SA13 1PJ 01639 763330
Abertawe: Gwasanaethau Etholiadol, Neuadd y Ddinas, Abertawe SA1 4PE 01792 636123
Emma Palmer
Swyddog Canlyniadau Etholaethol
Dyddiedig: 25/03/2026
